Mary King Sarah – E. Tomos

Mae stori arbennig Mary King Sarah yn dangos y cysylltiadau agos a fodolai ymysg cymunedau chwarelyddol yng Nghernyw, yr UDA ac yng ngogledd Cymru yn ogystal â’r traddodiad cerddorol gref a ffynnai ar draws y bröydd llechi.

Fe’i ganed yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle ym 1885 ac er bod ei henw yn ymddangos fel enw llwyfan, dyma oedd ei henw bedydd. Roedd ei nain a’i thaid ar ochr ei thad, Edwin a Julia Sarah wedi mudo o Gernyw i Dalysarn gyda thri o blant, Tom, Annie a Jennie. Dechreuodd Edwin – a oedd yn beiriannydd medrus – weithio yn un o chwareli niferus Dyffryn Nantlle. Ymhen amser, daeth ei fab, Tom hefyd i weithio yn y chwarel, fel gyrrwr trên bach. Yn rhyfeddol, fe briododd Tom gyda merch leol o’r enw Sarah Jones, ond wedi iddi briodi Tom Sarah roedd ganddi enw anarferol iawn – Sarah Sarah!

Roedd Tom a Sarah, ill dau, yn hynod gerddorol. Bu Tom yn canu’r cornet ym mand arian Dyffryn Nantlle ac yn arweinydd y band am chwarter canrif. O dan ei arweiniad ef, enillodd y band nifer o gystadlaethau yn ogystal â pherfformio gerbron y Frenhines Fictoria. Roedd Sarah yn gontralto ddawnus, fe’i hadnabyddid fel ‘Seren Aerau.’

Fe’i ganed iddynt pump o blant, gan gynnwys Mary King Sarah. Roedd y teulu yn aelodau o gapel yr Annibynwyr Seion yn Nyffryn Nantlle ac yn dilyn y Diwygiad ym 1904 dechreuoedd Mary King Sarah deithio o amgylch capeli Cymru gyda’r diwygwyr yn diddanu cynulleidfaoedd mawr iawn gan ddod yn adnabyddus i gylch eang o Gymry.

Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Gaernarfon ym 1906 enillodd Mary King Sarah y wobr am unawd soprano – gan guro yr adnabyddus Ivor Novello a oedd yn hogyn o soprano ar y pryd. Enillodd hefyd ar yr unawd mezzo-soprano yn ogystal â chystadleuaeth y ddeuawd gyda Evan Lewis, Capel Curig. Yn dilyn ei llwyddiant yng Nghaernarfon, trefnwyd iddi hi gyda Mary Richards, Rhymni, contralto a Harry Lewis, Nelson, tenor fynd ar daith chwe wythnos trwy Gymru. Yn dilyn y daith roedd y galw amdani yng Nghymru a Lloegr yn sylweddol. Bu’n berfformio yn yr operâu Il Travatore Maritana gyda Cymdeithas Harmonic Ferndale.

Ym 1909 derbyniodd wahoddiad Côr y Moelwyn i fod yn unawdydd iddynt ar eu hymweliad ag America.  Y canlyniad fu iddi gael y fath groeso yno fel na ddychwelodd adref efo’r Côr. Arhosodd am gyfnod gyda phensaer enwog o’r enw Frank Lloyd Wright a oedd yn perthyn o bell i’w mam. Erbyn cyrraedd yr UDA roedd yr holl ganu bellach yn rhoi ychydig o straen ar lais Mary ac fe benderfynodd i fynd i weithio fel nyrs yn Wisconsin am gyfnod er mwyn rhoi seibiant iddo.

Fe arosodd Mary yn yr UDA gan briodi â Leonard Schoen ym 1913. Ganwyd iddynt bump o blant ond bu farw Leonard ym 1923. Er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd, yn dilyn marwolaeth ei gŵr bu Mary yn gweithio mewn nifer o swyddi amrywiol – mewn siop ddillad merched, swyddfeydd ac yna gyda chwmni moduron ym Milwaukee. Drwy gydol y cyfnod parhaodd Mary yn brysur yn cefnogi cymanfaoedd canu.

Ym 1946 priododd Evan L. Thomas, perchennog gwasg yn Waukesha. Hannodd deulu Thomas yn wreiddiol o Geredigion a dychwelodd y par i Gymru am gyfnod ym 1947. Ym 1951 bu farw Evan gan adael Mary yn wraig gweddw am yr eil waith. Yn dilyn marwolaeth Evan symudodd Mary i fyw gyda’i merch Evelyn yn Marcellus, Efrog Newydd.

Ym 1959 daeth Mary King yn ôl i Gymru am y tro olaf a hynny ar gyfer taith arbennig gyda chôr o’r UDA. Fe deithiodd Mary a’r côr o amgylch yr Eisteddfodau lleol gan ymweld yn ogystal ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Yn ystod ei chyfnod yng Nghymru derbyniwyd Mary yn aelod o Orsedd y Beirdd. 


Dychwelodd Mary i’r UDA ym 1960 gan cyfnod yn Pheonix, Arizona; yno, y priododd am y trydydd tro gyda’r Parchedig David L. Jones, brodor o Lanarth, Ceredigion. Wedi dwy flynedd o fywyd priodasol, bu farw David, a dychwelodd Mary unwaith eto i Efrog Newydd at Evelyn.

Bu farw Mary yn Efrog Newydd yn 1965 yn 80 oed.



Mae E. Tomos yn gweithio i Cwmni Da yng Nghaernarfon. Mae hi yng nghanol ysgrifennu ei chyfrol gyntaf ar hanes iechyd y bröydd llechi.