Lucy Walter – E. Lois

Ganwyd Lucy Walter tua’r flwyddyn 1630, yng Nghastell y Garn, ger Hwlffordd, i deulu o foneddigion Cymreig o Sir Benfro. 

Yn 1644, cipwyd Castell Roch oddi wrth ei theulu, ac aeth Lucy Walter i chwilio lloches yn Llundain, lle aeth hi ar long i’r Hague.  

Yno, mae’n debyg iddi gwrdd â Charles II (oedd yn “Dywysog Cymru” bryd hynny), oedd yn aros yn yr Hague am gyfnod byr bryd hynny. Roedd Charles yn ddeunaw bryd hynny, ac chaiff Lucy Walter ei hadnabod yn aml fel ei feistres cyntaf. Ar y 9fed o Ebrill 1649, ganwyd plentyn iddynt, James, oedd i ddod yn Ddug Trefynwy.  

Yn 1650, gadawodd Charles hi yn yr Hague pan ddychwelodd i’r Alban. Yn ystod ei gyfnod i ffwrdd, mi gafodd Lucy Walter garwriaeth â Theobald, Ail Is-Iarll Taaffe, ac mi anwyd merch iddynt, Mary, yn 1651. Wedi Brwydr Caerwrangon yn 1651, dychwelodd Charles i’r cyfandir, a dirwyn ei berthynas â Lucy Walter i ben.   

Yn 1656, symudodd i Lundain i fyw uwchben siop barbwr ger Somerset House. Cafodd hi a’i morwyn eu cyhuddo o fod yn ysbiwyr, a’u hanfon i dwr Llundain. 

Cafodd ei rhyddhau o dwr Llundain, a’i hanfon yn ôl i’r Iseldiroedd. Yn 1658, cafodd ei mab ei basio ymlaen i diwtor brenhinol, ac yn mis Medi’r un flwyddyn bu farw Lucy Walter o salwch ym Mharis. Roedd hi’n 27-28 mlwydd oed.   

Darllen Pellach:  
Lucy Walter, Wife Or Mistress – Lord George Scott 
The Abandoned Woman: The Story of Lucy Walter, 1630-1658 – Frank Arthur https://www.britannica.com/biography/Lucy-Walter


E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.