Louisa Maud Evans

Louisa Maud Evans – N. M. Thomas

Ym mynwent y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd mae yna gofeb o farmor gwyn sy’n cofio merch pedair ar ddeg oed a fu farw mewn damwain rhyfedd ym 1896.  

Bedd Louisa Maud Evans ydyw.  Cafodd ei hadnabod tan ryw bythefnos cyn ei marwolaeth fel Louie Evans – ac wedyn am y pythefnos olaf fel Madamoisellle Albertini.  Fe’i lladdwyd mewn damwain balŵn yn yr awyr uwchben Caerdydd.

Credir i Louisa gael ei geni yn Barton Regis ym Mryste tua ddiwedd 1881.   Pan oedd yn un mis ar bymtheg oed cafodd ei mabwysiadu gan Mr a Mrs Crinks, ffotograffydd a’i wraig o Fryste.  Actores oedd mam Louisa ac roedd ei thad wedi diflannu adeg ei geni.  Felly cafodd ei magu gan y Crinks.   Dechreuodd weithio mewn ffatri ddillad – ond roedd yn amlwg yn ysu am fywyd mwy anturus.

Mae’n debyg bod y Crinks yn adnabod teulu’r Handcocks, a oedd yn rhedeg ffeiriau a sioeau yn ne Lloegr.  Aeth Louisa atyn nhw i weithio fel morwyn.  Yn ôl Mr Crinks, yn ei gyfweliad gyda’r wasg (Evening Standard 25ain Gorffennaf 1896) aeth yr Handcocks i Torquay ac yna gwnaethon nhw gyfarfod gyda Mr Gaudron  – neu “Professor Auguste Eugene Gaudron”.  Ffrancwr ydoedd a weithiai ym myd y syrcas.

Ymddengys fod Louisa wedi rhedeg i ffwrdd i fod gyda Mr Gaudron ac i weithio iddo fe.  Roedd Gaudron yn cynhyrchu math o falŵn ar gyfer sioeau – ac roedd yn feistr ar y gamp ei hunan.   Roedd e hefyd yn ddyn oedd yn gwybod sut i gynnal sioe – ac roedd y balŵn yn rhoi cyfle gwych i wneud hyn.  

Byddai’n trefnu campau lle byddai balŵn mawr cotwm yn mynd i’r awyr trwy ddefnyddio mwg cynnes i’w lenwi.  Byddai person yn cael ei glymu wrth y balŵn ac yna yn ei ddatod ei hun ac yn defnyddio parasiwt i lanio nôl ar y ddaear.  Weithiau byddai’r person yn codi ar siglen o dan y balŵn!  Roedd yn beryglus – ond yn hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd y cyfnod – yn enwedig pan fyddai merched yn gwneud y triciau hyn yn yr awyr.

Ar y pryd trefnwyd Arddangosfa Fawreddog Diwydiant a Chelfyddyd ym Mharc y Waun Ddyfal – yn rhannol i dalu am estyniad i Lyfrgell Caerdydd.  Pan ymwelodd Tywysog a Thywysoges Cymru â’r Arddangosfa ym 1896 dyma’r darn newyddion cyntaf i gael ei ffilmio ym Mhrydain.  Roedd yn gyfle gwych i Gaudron ddangos triciau gyda’r balŵn.

Am 7.30yh Ddydd Mawrth 21ain Gorffennaf roedd tyrfa fawr yn barod i weld Madamoiselle Albertina yn codi ar y balŵn.  Yn ôl Gaudron, yn y cwest i’w marwolaeth, roedd hi wedi dweud wrtho ei bod hi dros ugain oed a hefyd ei bod wedi perfformio’r gamp cyn hyn.  Daeth yn amlwg, serch hynny, and oedd Louie wedi gwneud hyn o’r blaen.

Roedd yn gwisgo siwt morwr a gwregys achub wedi ei wneud o gorc.  Dywedodd llygad-dystion ei bod yn ymddangos yn gyffrous ac yn hapus wrth iddi baratoi.  Ond awgrymodd perfformiwr arall, J Owen, bod ganddi rywbeth ar ei meddwl a’i bod wedi dweud nad oedd yn poeni a fyddai’n dychwelyd i’r ddaear o’r balŵn.  Ond wedyn dywedodd bod ei hwyliau wedi gwella, ac roedd e wedi addo dod â gwydraid o laeth iddi pan fyddai’n dod nôl.  Dywedodd ei bod wedi codi llaw arno a gweiddi “Tra – la – la” arno.  Dyna’r tro olaf y byddai’n siarad gyda neb.

Cododd i’r awyr o dan y balŵn llawn mwg.  Yn ôl Gaudron roedd hi i fod disgyn ger yr Ysbyty – lle byddai ceffyl a chert yn ei chasglu ac yn dod a hi nôl o flaen y dorf  a’i chymeradwyaeth.  Ond chafodd hi mo’r cyfle i wneud hyn.  Daliodd chwa o wynt yn y balŵn a’i dynnu dros y môr.

Dywedodd James Ware, oedd yn gweithio yn y Pier-Head, ei fod wedi gweld y parasiwt ychydig ar ôl wyth o’r gloch.  Gwelodd ferch yn syrthio i’r môr – a neb digon agos i’w hachub.   Gwyliodd gweithwyr y dociau hi’n disgyn o’r awyr, ceisiodd un o’r gyrrwyr trên gyflymu er mwyn ei gweld, aeth pysgotwr o’r enw Partridge allan yn ei gwch i chwilio amdani a nofiodd dyn lleol, James Dunn, allan i’r man lle gwelodd e hi’n taro’r môr.  Ond doedd dim sôn amdani.  Roedd ei marwolaeth yn un gyhoeddus.   

Am sawl diwrnod wedyn roedd y wasg yn llawn o storiau amdani –  a’r môr yn llawn dynion yn chwilio amdani.  Bu pobl yn damcanu y byddai rhywun yn cael hyd iddi’n fyw – ac mai rhyw sioe oedd hwn – rhyw fath o “publicity stunt”.  

Ar y 25ain Gorffennaf nododd yr Evening Standard eu bod wedi dod o hyd i’w chorff o dan y creigiau ger y goleudy yn Nash, Sir Fynwy, rhyw ddeuddeg milltir o Gaerdydd.   Cafodd ei darganfod gan ferch yr un oed â hi – Mary Waggett.  Mewn cwest ddeuddydd yn ddiweddarach nodwyd ei bod wedi marw trwy foddi.  Collfarnwyd Gaudron am adael i rywun mor ifanc a di-brofiad gymryd rhan yn y gamp.  

Talwyd am ei hangladd gan y cwmni oedd yn trefnu’r Arddangosfa.  Talwyd am ei chofeb gan ddarllenwyr y Western Mail – nifer ohonynt mae’n siwr yn y dorf y noson honno.  

Darllen pellach:

www.geoffbrookes.co.uk

sconzani.blogspot

Evening Express 2 Rhagfyr 1896

Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.