Joan Howson
Yn Eglwys Sant Beuno, Penmorfa, mae yna ddwy ffenest liw yn y cyntedd yn dangos Sant Cybi a Sant Cyngar. Yn ôl y sôn maent gan Joan Howson ac yn dyddio i’r cyfnod rhwng y rhyfeloedd.
Ganwyd Joan Howson ym mis Mai 1885 yn Overton, Sir y Fflint. Daeth o deulu eglwysig; roedd yn ferch i’r Parchedig George Howson a’i wraig Ethel. Roedd yn wyres hefyd i Ddeon Caer ac Esgob Madras. Un o’i brodyr oedd sylfaenydd y ffatri Pabis Coch i gefnogi cyn-filwyr.
Archddiacon oedd ei thad ac erbyn 1891 roedd y teulu yn byw yn Monks Coppenhall, Crewe. Roedd tri brawd hŷn ganddi ac roedd y teulu yn cyflogi dwy forwyn ar y pryd. Mae’r teulu yn yr un ardal ddeng mlynedd yn ddiweddarach ond yn 1911 mae Joan a’i rhieni yn byw yn Ficerdy St Andrews yn Southport.
Ar y pryd roedd Joan yn fyfyrwraig yn Ysgol Gelf Lerpwl. Flwyddyn ar ôl iddi orffen yno aeth i weithio yn y Glass House yn Fulham, Llundain. Roedd y stiwdio yma yn ddylanwadol, gyda nifer o fenywod yn ymarfer eu crefft. Roedd y stiwdio hefyd yn cynnwys aelodau o fudiad y syffrajét ac roedd Joan yn rhan o’r mudiad yma.
Yn y Glass House cyfarfu â Caroline Townshend, a oedd hefyd yn gweithio gyda gwydr lliw. Daeth yn brentis iddi ym 1912 ac erbyn 1920 roeddent wedi sefydlu eu busnes eu hunain, Townshend and Howson. Agoron nhw fusnes yn Putney a chymryd comisiynau am eu gwaith. Byddent yn arwyddo pob darn gyda llythrennu eu henwau, a pharhaodd Joan i wneud hyn ar ôl marwolaeth Caroline hefyd.
Roedd Joan a Caroline yn weithgar yn y mudiad sosialaidd hefyd. Yn ystod y Rhyfel Mawr aeth Joan i weithio mewn golchdy mewn ysbyty cyn ymuno â chwmni o Grynwyr oedd yn mynd i ogledd Ffrainc. Am gyfnod bu’n gweithio mewn ysbyty ar y Ffrynt Gorllewinol ger Amiens. Mae un o’i ffenestri yn High Wycombe yn dangos yr Albanwyr Mary Slessor ac Elsie Inglis a aeth â merched allan i’r rhyfel i weithio mewn catrodau meddygol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd mae’n debyg bod y ddwy wedi trefnu dod ag Iddewon draw ac wedi prynu tŷ cyfagos yn Putney er mwyn eu cartrefu. Awgrymir eu bod, fel Crynwyr, wedi talu hanner can punt er mwyn profi na fyddai’r Iddewon yn fwrn ar y wlad a rhoi rhywle iddynt fyw. Un o’r rhai gafodd ei noddi gan Joan a Caoline oedd yr actor Martin Miller. Mae yna hefyd hanes iddynt brynu tŷ yng Ngogledd Cymru, ar ôl colli eu cartref nhw yn y Blitz, a dechrau cymryd plant o Fulham a Lerpwl fel faciwis.
Bu Joan yn gweithio gyda Adran Celf Ganoloesol Prifysgol Rhydychen. Daeth yn arbenigydd mewn gwydr canoloesol ac roedd galw arni i drwsio ffenestri wedi’r Rhyfel. Un o’i gweithiau mwyaf oedd ffenestri Abaty Westminster. Yn aml roedd ei ffenestri lliw yn dangos menywod. Yn All Saints yn High Wycombe mae ffenest ganddi sy’n dangos Santes Bridget, Santes Gwenffrewi; Santes Hilda; Elizabeth Fry; Margaret Beaufort a Mary Slessor. Gellir gweld enghreifftiau o waith Joan yng Nghymru yn Eglwys Teilo Sant, Pontarddulais, yn Eglwys Sant Mihangel, Ynys ac yn Eglwys Sant Twrog, Maentwrog – yn ogystal ag Eglwys Sant Beuno.
Mae yna hanes i Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain dderbyn bocs o wydr o ffenestr Eglwys Coms yn Suffolk. Roedd y ffenest wedi torri o ganlyniad i ffrwydrad yn y felin cotwm yn Stowmarket yn 1871. Roedd Joan yn gwybod am y bocs o wydr a chynigodd i adfer y ffenest. Rhoddwyd y bocs iddi yn 1939, ond yna daeth y rhyfel ac aed â’r bocs i chwarel ger Porthmadog i’w gadw’n ddiogel. Ar ôl y rhyfel aeth Joan yn ôl i’r gwaith a rhoddwyd y ffenestr yn ôl yn yr eglwys yn 1952.
Bu farw George Howson, tad Joan, ym Morfa Bychan yn 1943. Yng nghofrestr 1939 roedd yn byw yno gyda dwy forwyn. Ar y pryd roedd Caroline a Joan yn byw yn Deodar Road, Putney. Bu farw Caroline, partner Joan, yn yr un tŷ a’i thad yn 1944. Symudodd ei brawd, Geoffrey, i’r tŷ a bu farw yno yn 1961.
Yn 1945, wedi’r Rhyfel aeth Joan yn ôl i Putney a pharhau gyda’i gwaith. Ymhlith ei chymdogion roedd artistiaid eraill a rhai oedd yn gweithio ar wydr lliw. Mae’n debyg ei bod hi’n berchen ar sawl adeilad yn y stryd – a ddaeth yn “bentref arlunwyr” am gyfnod.
Bu’n gweithio gyda Mary Eily de Putron i drwsio rhai o ffenestri hŷn Abaty Westminster. Bu’r ddwy hefyd yn gyfrifol am drwsio ffenestri lliw Fictoriaidd Chapter House rhwng 1948 a 1951. Gweithion nhw hefyd ar ffenestri capel New College. Bob dydd Llun rhwng Hydref 1945 a Gorffennaf 1947 teithiodd y ddwy i New College i weithio ar y ffenestri.
Oherwydd y cyhoeddusrwydd a ddaeth yn sgil ei gwaith ar Abaty Westminster. Ymwelodd y Frenhines May â’r stiwdio yn Putney yn 1951 a gofynnwyd i Joan greu portread o’r Brenin Sior VI ar gyfer Capel y Savoy, Covent Garden.
Cadwodd Joan y tŷ oedd ganddi ym Morfa Bychan a’i ddefnyddio fel cartref gwyliau iddi hi a’i ffrindiau. Mae’n debyg iddi ymddeol yno ac mewn tŷ arall yn y pentref, o’r enw The Studio; bu farw yn 1964.
Cyfeiriadau:
Saving Churches – Matthew Saunders
Sussexparishchurches,org
Cataloguing the Martin Miller and Hannah Norbert Miller Archive
Revruth.worpress.com
http://stainedglass.llgc.org.uk/person/285
https://norbertmiller.wordpress.com/tag/joan-howson/
https://docplayer.net/83411950-La-societe-guernesiaise.html
Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.