Jemeima Niclas – A. Ifans

Jemeima Niclas a Glaniad y Ffrancod yn Abergwaun mis Chwefror 1797.

Roedd y chwyldro Ffrengig wedi dechrau ar Orffennaf 14 1789 yn Ffrainc trwy ymosod ar garchar Bastile.

Y rheswm am y chwyldro oedd fod y Ffrancod tlawd eisiau rhyddid i addoli mewn capel neu eglwys, eisiau cydraddoldeb, gwell addysg ac roedd bwyd yn ddrud. Cafodd y brenin Louis XVI ei ddienyddio yn 1793.

Roedd rhyfel rhwng Ffrainc a Lloegr 1793 – 1815.

Roedd y Ffrancod eisiau lledu y chwyldro ac wedi trio cyn y Nadolig 1796 gyda 17 llong a 15,000 o filwyr trwy hwylio o Ffrainc i Bantry Bay, Iwerddon ond methiant oedd yr ymdrech achos y tywydd garw ofnadwy.

Fe wnaethon nhw drio eto ym mis Chwefror 1797.

Bwriad gwreiddiol oedd hwylio o Brest yn Llydaw a glanio yn ymyl Bryste, llosgi’r dref honno, ac ennill cefnogaeth trwy Loegr. Ond methodd y cynllun hwnnw am fod y tywydd yn arw ofnadwy, felly ceisiwyd glanio ym Mhencaer, Abergwaun, Sir Benfro.

Y cynllun oedd cerdded y milwyr o Abergwaun tua Gogledd Cymru, Caer a Lerpwl ac yna ymuno gyda milwyr Ffrengig oedd wedi hwylio i Newcastle a cherdded trwy ganol Lloegr i’r de a chymeryd Llundain yn enw Ffrainc. Methiant oedd glanio yn Newcastle. Roedd Thomas Williams (cyn-forwyr) yn chwilio am ei ddefaid oddi ar arfordir Sir Benfro rhwng Abergwaun a Thyddewi pan welodd bedair llong, roeddent yn chwifio baneri Jac yr Undeb roedd 1,400 o Ffrancod (cyn-garcharorion – rapsgaliwns) ar eu byrddau, wrth agosau at yr arfordir dyma nhw’n newid y y baneri Jac yr Undeb am faner Ffrainc .

Anfonodd Thomas Williams neges at Thomas Knox oedd yn gyfrifol am 70 o filwyr y Ffencibles yn Abergwaun. Cafodd Thomas Knox dipyn o fraw ac fe anfonodd neges at  Arglwydd Cawdor yn Stackpole, de Sir Benfro yn gofyn am gymorth. Roedd 600 o filwyr yn ymarfer yng Nghastell Martin.

Roedd Thomas Knox yn ddi-brofiad ac yn llwfrgi, cerdded ei filwyr o Abergwaun am Hwlffordd ac ym mhentref Treletert fe gyfarfu a milwyr Arglwydd Cawdor o Stackpole, yna troi yn ôl gyda milwyr Cawdor. Gwnaeth Cawdor ei bencadlys yn y Royal Oak, Abergwaun.

Glaniodd y Ffrancod ger Carreg Wastad, Pencaer, mae y rhan yma o’r arfordir yn le anodd i ddringo’r creigiau a chario eu harfau.

Daeth y Ffrancod i’r lan o’r pedair llong mewn 17 o gychod bach (suddodd un a boddodd 8 Ffrancwr). Gadawodd y pedair llong fawr yn ôl am Ffrainc yn syth. Cadridog Tate oedd arweinwyr y Ffrancod, Americanwyr, 70 mlwydd oed o dras Gwyddelig. Gwnaeth ei bencadlys yn ffermdy Trehywel ym Mhencaer.

Gobaith Tate oedd y byddai’r werin yng Nghymru yn tyrru i gefnogi ac yn ymuno â nhw yn y chwyldro. Wnaethon nhw ddim. Rapsgaliwns, cyn-garcharorion wedi eu rhyddhau o’r carchar ar yr amod eu bod yn ymuno yn y chwyldro oedd milwyr Ffrainc. Roedden nhw’n yn llwgu ac fe wnaethon redeg riot o gwmpas y ffermdai yr ardal yn chwilio am fwyd. Bwytodd rhai fwyd amrwd heb ei goginio ac fe aethant yn sal. Yfodd rhai lawer gormod o ddiod, y cwrw cartref (home brew) a gwin yn y tai (roedd llongddrylliad llong o Bortiwgal wedi digwydd wythnosau yn nghynt a phobol yr ardal wedi cael llawer o foteli gwin o’r traethau).

Yn ffermdy Brestgarn meddyliodd y Ffrancod meddw fod rhywun yn cuddio yn y cloc 8 diwrnod ac fe saethwyd at y cloc. Roedd Tate wedi colli rheolaeth yn llwyr ar ei filwyr. Methiant llwyr fu’r ymgais Tate a’r Ffrancod. Shambles. Anfonodd neges at Cawdor yn bargeinio – ildio a chael mynd yn ôl i Ffrainc.

Ateb Cawdor; Dim bargeinio – ildio, dim amodau.

Yn y diwedd ildiodd Tate ac ymgasglu ei filwyr ar draeth y Parrog, Wdig a’u cefnau at y môr. 

Arwres Glaniad y Ffrancod oedd Jemeima Niclas, roedd hi’n 47 mlwydd oed – crydd yn byw yn Abergwaun, dynes gryf, cyhyrog. Arestiodd ddwsin o Ffrancod ar ei phen ei hun.

Hi hefyd a drefnodd i tua 400 o ferched Abergwaun gerdded yn ôl a blaen ar y Bigni, y bryn uwchben y Parrog yn Wdig ger Abergwaun. Gwisgai’r merched hetiau tal du a siolau coch gan gario ffyrch a rhawiau.

Yn y gwyll, i’r Ffrancod ymddangosai’r merched Abergwaun (siolau coch a hetiau du) fel byddin arall y tu ôl i un yr Arglwydd Cawdor (top glas tywyll + trowsys gwyn a milwyr y Ffencibles Abergwaun (topiau coch + trowsys gwyn), ildiodd y Ffrancod.

Bu’n rhaid i’r Ffrancod gerdded o Wdig tua 12 milltir i’r carchar yn Hwlffordd ac yna carchar Caerfyrddin a Maenclochog . Ym Maenclochog mae tŷ o’r enw La Bastille ( yr un enw a charchar Paris ar ddechrau’r chwyldro) ble carcharwyd y Ffrancod.

Mae carreg fedd Jemeima o flaen Eglwys y Santes Fair ar sgwar Abergwaun.

Cafodd bensiwn da iawn gan y llywodraeth am ei hymdrech.

Roedd rhai yn meddwl fod pobol yn Sir Benfro wedi helpu’r Ffrancod i ddod I Abergwaun. Arestiwyd Thomas John, Casnewydd Bach, John Reed, Pencaer a Samuel Griffiths Solfach. Carcharwyd am 6 mis yn yr un carchar a’r Ffrancod yn Hwlffordd oedd wedi rhoi tystioaeth yn eu herbyn.

Bu’n rhaid i deuluoedd y tri fynd a bwyd iddynt yn y carchar. Yn yr achos gwrthododd y Ffrancod rhoi tystiolaeth yn erbyn y tri. Rhyddhawyd y dynion.

Bu’n rhaid i’r dynion dalu £200 yr un am gostau cyfreithwyr. Mae moseg hyfryd ar y Parrog, (ystyr Parrog yw – rhodfa ar lan y môr) Wdig i gofio Glaniad y Ffrancod.

Yn Llyfrgell Abergwaun mae tapestri Glaniad y Ffrancod (30 medr wrth 50 cm) campwaith Elizabeth Cramp a 73 o ferched Abergwaun ar fro. Gwnaethpwyd y tapestri yn 1997 i gofio daugan mlwyddiant Glaniad y Ffrancod.



Ganed Alun Ifans yn Sarn Bach, Pen Llŷn. Treuliodd ei yrfa yn dysgu yn Sir Benfro. Buodd yn brifathro Ysgol Casmael am 33 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2009.
Cyhoeddoedd nifer o lyfrau, yn eu plith:
Cyfres y Môr-ladron
Pediair Cainc y Mabinogi i Ddysgwyr
Macsen Wledig
Swyn Sir Benfro

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois