Dr Rachel Bromwich

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Ysgolhaig a arbenigai yn yr ieithoedd Celtaidd a’u llenyddiaethau oedd Rachel Bromwich a aned yn Brighton yn 1915 (née Amos). Treuliodd beth o’i bywyd cynnar yn yr Aifft lle roedd ei thad yn Athro, a symudodd y teulu yn ôl i Loegr yn 1925. Er nad oedd ganddi gysylltiadau uniongyrchol â Chymru, fe ymddiddorodd yn yr ieithoedd Celtaidd, gan ennill gradd yn y dosbarth cyntaf o Gaergrawnt mewn Astudiaethau Norsaidd, Eingl-Sacsonaidd a Cheltaidd. Aeth yn ei blaen i astudio ym Mangor er mwyn canolbwyntio ar y Gymraeg. Dychwelodd yn y man i Gaergrawnt fel Athro yn yr Ieithoedd Celtaidd a’u Llenyddiaethau. Treuliodd ddiwedd ei hoes yn Aberystwyth lle roedd yn weithgar yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Efallai y cofir hi orau gan nifer yng Nghymru am ei gwaith arloesol ar farddoniaeth Dafydd ap Gwilym, ac yn hyn o beth, mae’n rhan o linach anrhydeddus o ysgolheigion a ddaeth at y Gymraeg a’i llenyddiaeth o’r tu allan, fel petai, ond a wnaeth nid unig ymgydnabod yn drylwyr iawn â hi, ond dyfod yn feirniad mentrus ac awdurdodol arni. Yn y cyd-destun hwn (gwaith Dafydd ap Gwilym a’i gyfnod), gellir crybwyll dau enw arall wrth gwrs: Dafydd Johnston a Helen Fulton. Daeth Bromwich at faes astudiaethau Dafydd ap Gwilym â ffresni gweledigaeth a llygaid craff.

Yn hyn o beth, dichon mai ei gwaith pwysicaf oedd ei hysgrifau amrywiol ar waith Dafydd, a gasglwyd ynghyd â’u cyhoeddi yn y gyfrol Aspects of the poetry of Dafydd ap Gwilym yn 1986 (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru). Cyn ei chyfraniadau hi a rhai o’r cyfoedion at y maes, roedd agweddau dyneiddiol-ryddfrydol yn drwm iawn eu dylanwad: hynny yw, agweddau a ddeilliodd o safbwynt annamcaniaethol a beirniadol naïf tuag at waith Dafydd (a llenyddiaeth yn gyffredinol); beirniadaeth a roes werth mawr ar ‘hanfod’ tybiedig barddoniaeth, sef cynnyrch rhyw artist prin sy’n sefyll uwchlaw gweddill y ddynoliaeth ac yn ymateb i ehediadau cyfrwys a dirgel ei ddarfelydd ei hun. Yn ôl y dyneiddwyr, themâu ‘oesol’ wedi eu mynegi’n gain yw celfyddyd, ac mai rhywbeth y gallwn ‘gydymdeimlo’ yn reddfol ag ef ydyw; ochr arall y geiniog honno yw mai gwyrdroëdig yw unrhyw beth nad yw’n cydymffurfio â’r safonau derbyniedig. Dyma sut yr oeddid yn ymagweddu at waith Dafydd cyn i ysgolheigion megis Rachel Bromwich ddechrau edrych y tu ôl i ffasâd ‘goleuedig’ y feirniadaeth hon a wadai fod gan y gymdeithas a grymoedd cymdeithasol ddim oll i’w wneud â chynnyrch llenyddol, neu a wadai fod y pethau hyn i’w hystyried wrth ymateb i lenyddiaeth.

Cymwynas fawr Bromwich, ar y cyd ag eraill megis Helen Fulton, oedd dangos bod cefndir i’r ceinder, a bod mwy o lawer i waith Dafydd nag oedd y ffordd draddodiadol o’i werthfawrogi yn ei ganiatáu. Dangosodd yn enwedig y modd yr oedd dylanwadau ar ei waith ef yn amlygiadau o gyfathrach rhwng gwahanol bobloedd, a sut roedd y cerddi yn trafod, yn fwriadus, wleidyddiaeth y dydd a’r newidiadau mawr oedd ar droed yng Nghymru. Diau fod ei hysgrifau a’u herthyglau deallus wedi helpu i ddod ag astudiaethau yn y maes hwn sawl cam ymlaen, a’n galluogi i werthfawrogi amlochredd y cerddi hyn sy’n llawn tensiynau gwleidyddol yn gymaint ag y maent yn anghredadwy o huawdl a phrydferth a thechnegol gywrain. 

Darllen Pellach:

Erthygl Bywgraffiadur amdani: http://yba.llgc.org.uk/cy/c10-BROM-SHE-1915.html?query=rachel+bromwich&field=name

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois