Elen Roger Jones – G. S. Jones

Er mai bach yw poblogaeth pentref Marian-glas, ynddo ceir cewri o gymeriadau a fu’n greiddiol i ddiwylliant Cymru dros y ganrif ddiwethaf. Un ohonynt oedd Elen Roger Jones, aned 27 Awst 1908 yn ferch i William Griffith a Mary, ac yn chwaer i Thomas, Siarlot a’r actor byd-enwog Hugh Griffith, a enillodd Oscar am ei berfformiad yn Ben Hur. Wedi...