Llinell o farddoniaeth gan un o Feirdd y Mynydd Bach, B. T. Hopkins, yw llinell gyntaf hunangofiant Miss Cassie Davies – “Ba rin i bren heb ei wraidd?”. Er mwyn deall cymeriad y ddynes hynod hon a’i chyfraniad i fywyd a diwylliant Cymru, rhaid edrych arni yng nghyd-destun ei pherthynas â’i bro.
Ganwyd Cassie Davies yng Nghae Tudur, fferm fach fynyddig yng Nghwm Blaencaron, ger Tregaron, yn 1898. Does dim rhyw arbenigrwydd mawr yn perthyn i Gwm Blaencaron – prin iawn yw’r rhai sydd wedi clywed amdano – ond cymdeithas glòs uniaith Gymraeg y cwm hwn a ffurfiodd ei chymeriad, a dyma lle mae deall gwladgarwch Cassie. Yn y bobl a’r tir o’i chwmpas ffurfiodd y math o Gymru yr hoffai hi ei rannu gydag eraill.
Magwyd hi yn un o ddeg o blant mewn teulu llengar a cherddgar. Dywedodd yn aml ar hyd ei hoes i storïau a hanesion y cymeriadau lleol ddylanwadu arni, p’un ai yn y capel neu ar glos y fferm.
Addysgwyd hi yn ysgol fach Blaencaron, ac yna yn y ‘Cownti Sgŵl’ yn Nhregaron, lle bu iddi gael ei dysgu gan S. M. Powell. Dyma un o’r prif ddylanwadau ar y Cassie ifanc, gyda’i gwersi wedi’u gwreiddio yn hanes, chwedlau a thraddodiadau’r ardal.
Symudodd ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac er iddi ennill ei gradd nid effeithiodd y cwrs arni o gwbl, ac felly aeth yn ôl i ennill ail radd yn y Gymraeg. Yn ystod y cwrs hwn “…yr enynnwyd fy niddordeb diollwng i yn fy iaith fy hun. Dyma’r pryd y dechreuais i ddod yn ymwybodol o’m gwreiddiau a’m hetifeddiaeth fel Cymro…”.
Bu’n ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri rhwng 1923 ac 1938, ac yma y cyflwynodd gyfoeth Cymru i gannoedd o athrawon drwy eu hannog i fod â brwdfrydedd a chariad at bopeth Cymraeg er mwyn medru hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant mewn coleg ac ysgol a chymdeithas.
Yn ystod Ysgol Haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1926, ymunodd Cassie â’r Blaid gan gwrdd â rhai o’i ffrindiau oes yno, pobl fel Saunders Lewis, Kate Roberts a D.J. Williams. Aeth yn ôl i’r Bari a sefydlu cangen o’r Blaid yno, a bu ei gwaith gyda Phlaid Cymru yn ddiflino wedi’r haf hwnnw.
Yn 1938 penodwyd hi yn Arolygydd Ysgolion, gyda gofal arbennig dros y Gymraeg. Yn y swydd hon y daeth hi i adnabod Cymru, gan flasu ac ymgolli yn niwylliannau amrywiol ei gwlad; o Ben Llŷn i’r Rhondda, Morgannwg a Phenfro. Lle bynnag yr âi, hoffai ddim mwy ’na dod i adnabod cymeriadau’r ardal a rhannu ambell i stori neu gân.
Lle bynnag yr âi, yr oedd dod o hyd i gymdeithas Gymraeg yn hollbwysig iddi, ac wedi dod o hyd iddo byddai’n treulio’i hamser yn addysgu ac yn diddanu trwy gynnal cyfarfodydd diwylliannol a nosweithiau llawen. Yr oedd hi’n adnabyddus fel cynhyrchydd dramâu a rhaglenni nodwedd, ac am ei dawn lafar i ddifyrru cynulleidfaoedd ar lwyfan ac ar y radio.
Er bod yr hyn a gyfrannodd yn waith digon cyhoeddus, a hithau’n gymeriad ffraeth, prin iawn yw’r sôn amdani. Er hyn, roedd hi’n arloeswraig ei chyfnod; yn addysgwraig amlwg a gwraig gadarn a di-syfl.
Bu farw Cassie Davies yn 1988, yn ôl ym mro ei mebyd, ac yn addas iawn gosodwyd cofeb iddi ar wal Capel Blaencaron gan Gangen Plaid Cymru Tregaron gyda’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu arni: Bu’n hwb i’w bro a’i gwlad.
Darllen Pellach:
Hwb i’r Galon, Cassie Davies
Papurau Cassie Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
…
Daw Mari Elin o Flaencaron ac mae bellach yn byw ym Mhontrhydfendigaid. Yn ogystal â gweithio fel curadur arddangosfeydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae hi hefyd yn artist print.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois