Yn yr Eglwys Gadeiriol yn Aberhonddu mae yna feddrod trawiadol o wraig yn gorwedd sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg. Cofeb i’r teulu Gam (neu Games) ydyw – ond mae gwybod yn union pwy yw hon yn ddirgelwch. Gallasai fod yn Anne, gwraig i John Gam – neu o bosib ei merched-yng- nghyfraith – Marged Bodenham, gwraig I William Gam neu Elinor Morgan, gwraig Thomas Gam.
Disgynyddion oedd y gŵyr hyn i’r enwog Dafydd Gam – yr hwn y cyfeirir ato yn nrama Shakespeare, Henry V. Yn wreiddiol credid bod pob un o’r teulu wedi’u cynrychioli yn yr eglwys ond mae’n debyg i’r gweddill gael eu llosgi gan filwyr Cromwell.
O gymryd mai Ann Gam yw hon, efallai, mae modd gwybod ychydig amdani a’i theulu.
Roedd yn ferch i William Fychan o Borthaml a thrigai gyda’i gwr Sion (John) yn Aberbrân. Roedd ei gŵr yn ddyn amlwg ac yn Siryf Sir Frycheiniog yn 1559. Ei nain oedd Jane Chwitnai (Whitney) a gallai olrhain ei hach i Foreiddig Warwyn ac ach ei thad i Garadog Freichfras.
Bellach ffermdy sydd yn Aberbrân, gerllaw’r ffordd rhwng Aberhonddu a Phont-senni. Yn ôl Margaret Wood cawn mewnwelediad i ffordd o fyw y teulu trwy bensaerniaeth yr adeilad.
Mae’n debyg bod yna ddwy neuadd yn Aberbran – a hefyd ym Mhorthaml ger Talgarth, cartref plentyndod Ann. Byddai hyn wedi rhoi ystafell i’r teulu a hefyd un i westeion.
Uchelwr oedd Sion ac mae’n debyg y byddai ei fywyd yn gyhoeddus felly awgrymir y gallai Ann fod wedi cadw ei theulu i ffwrdd o’r bywyd cyhoeddus o bosib. Roedd yn fam i o leiaf pump o blant – William a Thomas y soniwyd amdanynt eisoes a hefyd Catherine, Siwan a Walter.
Mae cyfeiriad at Ann mewn cerddi sy’n dyddio o’r cyfnod. Wrth gwrs, canu traddodiadol sydd yma gan feirdd a gyflogwyd i ganu mawl a marwnad. Eto’i gyd, mae’r ffaith bod canu iddi yn bodoli yn nodi bod ganddi le amlwg iawn yng nghymdeithas y cyfnod.
Cadwyd dwy farwnad i Ann Gam – ac er na allwn fod yn sicr pryd y bu hi farw, mae’n sicr bod ei mab wedi marw cyn hi ym 1578. Canwyd awdl farwnad gan Siôn Mawddwy a chywydd gan Dafydd Benwyn sy’n dwyn y teitl,
“Awdl Farwnad Ann Games o Aberbran, merch Syr Wiliam Fychan o
Borthaml, Brycheiniog a chwaer Thomas Fychan” (DBccxvix)
Diddorol nad yw ei gwr yn cael ei nodi yn y teitl- ond o bosib roedd y cyfenw yn ddigon i nodi pwy oedd hi. Roeddynt yn ŵr a gwraig amlwg iawn yn y cyfnod.
Awgrymir gan Dafydd Benwyn mai’r hiraeth ar ôl ei mab oedd yn gyfrifol am farwolaeth Ann,
‘Hiraeth a’i dug, heb hiroes,
Am y mab yma i’m oes.’
Mae’n debyg ei bod hi’n noddwraig hael a bod ei chartref yn ganolfan i ddiwylliant Cymraeg yr ardal. Dywedir fod colli “merch oedd mawrwych waith” megis “oer friwiau maith”a “mawr fraw”.
“Sywr loyw, merch Syr William oedd
Fychan, tarian y tiroedd:
Gwraig ffyddlon Meistr Sion Gams wych,
Gwiw aur linwaed, gwawr lanwych:
A mam Meistr William, eilwaith,
Gams aur, oedd gymwys o’r iaith.”
Gwelir yma mai ei phrif rôl efallai oedd ei pherthynas gyda’r dynion enwog, fel gwraig ac fel mam. Byddai hyn yn gyffredin yng nghanu’r cyfnod. Serch hyn, fel arfer fel rhan o eiddo’r gwr y gwelid y wraig yn aml ac y canwyd iddi yng ngoleuni hyn. Mae’r ffaith bod yna ddwy farwnad i Ann yn awgrymu ei bod yn fenyw bwysig a chyfoethog.
Ac yn ôl y traddodiad hefyd mae Dafydd Benwyn yn cymharu Ann gyda llu o ferched clodwiw – megis Penelope, Sywsanna, Sara, Neicostrata, Gwenhonwy, Lywcres a’r Forwyn Fair.
Er na allwn wybod yn sicr pwy yw’r wraig yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, gwn ei bod yn rhan o deulu pwysig a dylanwadol yn y cyfnod. Ac mae’n debyg bod Ann yn gymeriad bwysig o ran noddi a chefnogi diwylliant Cymraeg ardal Aberbran ac Aberhonddu.
Darllen Pellach:
Erthygl y Bywgraffiadur am Dafydd Benwyn : http://yba.llgc.org.uk/en/s-DAFY-BEN-1550.html
Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois