Ganed Betty Campbell (Johnson gynt) i gartref tlawd yn Nhre-biwt yn 1934. Bryd hynny roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Bae Teigr (Tiger Bay). Yno, ger dociau Caerdydd, gorweddai calon cymunedau aml-ddiwylliannol cynharaf Cymru – a chartref Betty.
Daeth tad Betty, Simon Vickers Johnson, draw i Gymru o Jamaica yn bymtheg oed. Lladdwyd ef yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl i’w long, The Ocean Vanguard, gael ei daro gan dorpido yn 1942. Magwyd Betty gan ei Mam, Honora, fu’n gweithio yn anghyfreithlon fel bwci.
Bod yn athro fu breuddwyd Betty ers iddi fod yn ferch fach. Ond, er iddi brofi ei gallu yn y dosbarth sawl tro, gan fynd ymlaen i ennill ysgoloriaeth arbennig i astudio yn y Lady Margaret High School for Girls yng Nghaerdydd, gwynebodd ddiffyg cefnogaeth oherwydd ei hil a’i dosbarth.
Un enghraifft o hyn oedd pan ddywedodd ei phrifathrawes wrthi y byddai’r problemau y byddai hi yn siwr o’u hwynebu fel geneth ddu o gefndir dosbarth gweithiol yn “anorchfygol”. Rhuthrodd Betty yn ôl i’w desg ar glywed y geiriau a dan feichio crio.
Byddai Betty yn cofio’r geiriau hynny am byth. Ond er hynny, dim ond llwyddo i finiogi ei herfeiddiwch i wireddu ei breuddwyd wnaeth geiriau siarp ac anystyriol yr athrawes.
Yn 17 mlwydd oed, a hithau’n astudio am ei Lefelau A, beichiogodd Betty ac yna yn 1953 gadwodd yr ysgol i briodi ei chariad, Robert Campbell. Ond nid anghofiodd hi hi fyth ei breuddwyd o fod yn athro.
Yn 1960 a hithau bellach yn fam i dri o blant, fe ddaeth Betty ar draws hysbyseb ym mhapur y South Wales Echo oedd yn nodi bod Coleg Hyfforddi Caerdydd bellach yn derbyn myfyrwyr benywaidd. Yn sydyn, teimlai’r freuddwyd o ddysgu yn fwy real nag erioed ac yn fuan ar ôl ymgeisio, fe’i derbynwyd hi i’r coleg.
Erbyn iddi ddechrau ei gradd mewn addysg, roedd Betty wedi rhoi genedigaeth i’w phedwerydd plentyn a’r plentyn hwnnw yn dioddef o ffitiau yn gyson a gyda anghenion arbennig. Ond gyda cymorth gan ei Mam, ei theulu a’i ffrindiau, fe barhaodd Betty gyda’i hastudiaethau.
Er mai yn Llanrhymni roedd ei swydd dysgu gyntaf, buan iawn dychwelodd i Dre-biwt ar ôl derbyn swydd yn Ysgol Gynradd Mount Stuart. Ond doedd dychwelyd i’w hardal enedigol ddim yn fêl i gyd. Fel athrawes ddu fe brofodd hi hiliaeth ac agweddau gelyniaethus gan rai rhieni. Doedd rhai ohonyn nhw erioed wedi gweld athro du o’r blaen ac fe deimlodd Betty ei bod yn cael ei gweld yn israddol oherwydd ei hil.
Roedd hi’n gwbl benderfynol o newid eu hagweddau rhagfarnllyd.
Ei breuddwyd fawr hi oedd cael bod yn brifathrawes ac yn yr 1970au fe wireddwyd y freuddwyd honno pan ddaeth hi’n bennaeth ysgol du cyntaf Cymru yn Ysgol Mount Stuart. Fe’i hysbrydoldwyd hi gan ymgyrchwyr gwrth-gaethwasiaeth fel Harriet Tubman a’r mudiad hawliau sifil draw yn yr Unol Daleithiau felly dechreuodd ddysgu’r disgyblion am gaethwasiaeth, hanes pobl dduon a’r system apartheid oedd yn weithredol ar y pryd yn ne Affrica.
Wynebodd feirniadaeth am gynnwys ei chwricwlwm ond gwrthododd ildio –roedd yn ddyletswydd arni i ddysgu’r plant am yr hanes a’u gwneud yn ymwybodol o lwyddiannau arbennig pobl dduon o amgylch y byd.
O dan arweiniad arbennig Betty fe gynyddodd amlygrwydd Ysgol Mount Stuart a daeth pobl ledled y wlad i ddeall am waith gwych Betty. Bellach, mae ei chyn ddisgyblion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd hynod lwyddiannus fel doctoriaid, cyfreithwyr ac athrawon.
Daeth dim diwedd ar lwyddiannau hynod Betty. Yn 1998, fel aelod o’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hil, fe’i gwahoddwyd i gyfarfod â Nelson Mandela yn ystod ei unig ymweliad ef â Chymru. Bu’n aelod o fwrdd BBC Wales yn yr 1980au gan oruchwylio materion golygyddol a chynyrchu ac, yn 2003, fe’i gwnaed yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ei gwasanaethau dros addysg a bywyd cymunedol. Cynrychiolodd hi Dre-biwt fel cynghorydd hefyd fel aelod Llafur Cymru ac aelod annibynnol.
Yn ddiweddar, yn ystod mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn 2016, cyflwynwyd iddi wobr cyfraniad oes gan Kebba Manneh, cadeirydd Grwp Aelodau Du Unison Cymru Wales.
Mae Betty Campbell yn gosod esiampl arbennig – ac mae’n fodel rôl ar gyfer pobl ddu a menywod fel ei gilydd. Mae hi’n parhau i fod yn uchel ei pharch yn ei chymuned yn Nhre-biwt ac yn cael ei chydnabod fel awdurdod academaidd pwysig ym maes addysg am ei syniadaeth arloesol mewn addysg plant.
Mae ei chyfraniad arthurol hi i’r byd addysg – heb sôn am ei gwaith codi ymwybyddiaeth hanesyddol a dathlu cyfraniad pobl ddu drwy’r byd – i’w weld hyd heddiw yn ei chymuned yn Nhre-biwt, drwy Gymru a thu hwnt.
Gyda’i phendantrwydd a’i herfeiddiwch a’i hetifeddiaeth arbennig hi, mae Betty Campbell wedi hen ennill ei lle fel un o fenywod mwyaf ysbrydoledig ac arwyddocaol Cymru heddiw.
Darllen pellach:
Erthygl ar BBC Wales News: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-36044620
Cyfweliad gyda Cynulliad Cenedlaethol Cymru
https://www.youtube.com/watch?v=N-9Ct_Gvhes
Erthygl Wales Online
http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/lifetime-achievement-accolade-betty-campbell-10183522
Daw Fflur Arwel o Gaernarfon yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Blaid Cymru.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois