Ruth Wynn Owen – N. M. Thomas

Ruth Wynn Owen 1915 – 1992

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd yr Independent yn Iwerddon yn 2017 cyfeiriodd yr actor byd-enwog Patrick Stewart at wersi actio a gafodd fel bachgen ifanc gan actores o’r enw Ruth Wynn Owen.  Nododd hefyd fod yna ddyn ifanc arall yn mynychu’r un gwersi sef yr enwog Brian Blessed. Cyfeirir ati yn aml fel actores Gymreig.

Ganwyd Ruth ar 20fed Ionawr  1915 yn Monmouth Road, Watford.  Roedd ei thad, Reginald Wynn Owen yn fab i Elijah Owen a oedd yn ficer o Ynys Môn. Fe’i  bedyddiwyd tra bo’r teulu ar ymweliad gyda chwaer Reginald, Mary, yn New Brighton. Mae’n debyg nad oedd ei thad yn hoffi byrhau ei enw i “Reg” felly rhoddodd enwau i’w blant na ellid eu byrhau – Lindis, Ruth, Eric ac Elaine. Cafodd pob un ohonynt yr enw canol Wynn, fel eu tad.

Yn ôl hanes y teulu dysgwyd Ruth i ddarllen pan oedd yn ddwy oed gan ei nain, Elizabeth Owen,  a hanai o’r Trallwng. Dysgodd chwedlau gwerin Cymru a medrodd eu hailadrodd, gan greu perfformiadau ohonynt gyda’i brawd a’i chwaer. Ymhlith eu cynulleidfaoedd roedd aelodau’r teulu a morynion y cartref. Roedd ei hen ewythr, Elias Owen, yr hynafiaethwr o Faldwyn, a gyhoeddodd y llyfr Welsh Folklore yn 1896.

Bu farw mam Ruth, Nellie, o gancr pan oedd Ruth yn naw oed. Ar y pryd roedd y plant yn aros gyda’u modryb Mary.  Yn y cyfnod credwyd bod cancr yn heintus felly ni ddychwelodd y plant i’r cartref yn Watford.  Symudodd y teulu i Epsom.  Effeithiwyd Ruth i’r carn gan salwch a marwolaeth ei mam. Anfonwyd hi i Ysgol Breswyl Trevelian yn Haywards Heath ond roedd yn gas ganddi bod yno. Aeth wedyn i Ysgol Uwchradd Brodesbury a Kilburn. Ond pan symudodd y teulu yn ôl  i Watford dechreuodd hi a’i chwaer yn Ysgol Ramadeg Watford. Roedd yr ysgol gyferbyn â’u cyn-gartref ac roedd eu mam wedi mynegi dymuniad i’w merched fynd yno gan ei bod yn meddwl bod ymddygiad y disgyblion ar eu ffordd i’r ysgol yn wych.

Yn un ar bymtheg oed aeth Ruth i hyfforddi fel actores yn yr Old Vic yn Waterville Road, Llundain. Roedd yn dipyn o ffrindiau gyda Lillian Bayliss a redodd yr Old Vic gydag Eileen Overton, un o sylfaenwyr mudiad y Vic-Wells  Yn nes ymlaen dechreuodd actio gyda’r Howard and Wyndham Theatre yn yr Alban a chyfarfod â Stella Pettiward, a oedd yn rheolwr llwyfan, a daeth y ddwy yn ffrindiau mawr. Yn ôl Stella, cariad cyntaf Ruth oedd yr actor John Moody, ond daeth dim o’r berthynas; yn hwyrach fe oedd yn rhedeg Grwp Opera Cymru.   

Ar ddechrau’r 1930au cyfarfu ag Ian Danby. Roedd hi’n actio gyda’r Seagull Theatre Company ar y pryd  ac roedd e’n newyddiadurwr ar y Yorkshire Post. Roedd e’n dod o deulu cyfoethog ac roedd wedi astudio yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt.  Priododd y ddau yn 1936, ond doedd teulu Ian ddim yn hapus gyda’r briodas. Yn ddiweddarach daeth Ruth a’i thad yng nghyfraith yn dipyn o ffrindiau. Roedd y berthynas gyda’i mam yng nghyfraith yn anodd a phan oedd yn disgwyl y gefeilliaid daeth y fam i’w gweld yn Llundain.  Pan aethon nhw i’r orsaf i gyfarfod â hi, mynnodd bod Ruth yn cerdded y tu ôl iddynt gan ddweud nad oedd am gerdded gyda rhywun oedd yn edrych fel yr oedd Ruth yn edrych ar y pryd!   

Ar 21 Gorffennaf 1938 rhoddodd Ruth enedigaeth i efeilliaid: Sally ac Anne.  Tri mis ynghynt roedd wedi bod yn actio’r Frenhines Elisabeth yn ‘The Tudor Wench’,   Roedd yn enedigaeth anodd a chynghorwyd Ruth i beidio â chael mwy o blant oherwydd ei phwysau gwaed. Yn ôl hanes y teulu treuliodd y gefeilliaid eu penblwydd cyntaf yn y Mothercraft Home yng Nghaeredin gan mai dyna lle roedd Ruth yn actio ar y pryd. Cafodd y merched eu haddysg yn y cartref gan eu mam a sawl nani.  Symudon nhw i Trafalgar House yn Wiltshire pan oedd y gefeilliaid bron yn dair oed.  Tŷ teulu Stella Pettiward oedd hwn a chafodd y teulu ofal yno. Pan oedd y merched yn chwech oed, mabwysiadodd Ruth ac Ian fab o’r enw Charles.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyfarfu Ruth â Dylan Thomas pan oedd e’n gweithio ar ffilmiau propaganda yn Bradford. Daethant yn ffrindiau mawr. Meddai Paul Ferris yn ei gofiant “Dylan Thomas” bod Ruth mewn cariad gyda Dylan ond wedi gwrthod dechrau perthynas gyda fe. Roeddent yn llythyru yn aml a rhoddodd lawysgrif cerdd iddi yn anrheg.  Cadwodd ei chopi o’r gerdd Last Night I Dived My Beggar Arm gyda hi lle roedd Dylan wedi ysgrifennu “For Ruth” ar y brig. Yn ôl un o’i merched roedd yn drist ofnadwy o glywed am farwolaeth Dylan Thomas yn 1953.  

Ar ddiwedd y rhyfel roedd Ruth wedi datblygu problemau calon ac ymddeolodd o actio.  Symudodd y teulu i Upper Haugh yn Swydd Efrog. Doedd y tŷ ddim yn lle iachus iawn ac roedd iechyd Ruth yn dioddef. Symudodd y teulu wedyn i ‘Skiers Spring Lodge’ yn Hoyland ger Barnsley. Ond roedd arian yn brin a dechreuodd Ian yfed.

Penderfynodd Ruth fod angen iddi fynd yn ôl weithio. Daeth yn athrawes ddrama ymgynghorol ar gyfer y Gwasanaeth Carchardai. Roedd hefyd yn gweithio gyda’r West Riding Youth Drama Group. Yn ystod y cyfnod yma bu hefyd yn ddirprwy actor i Peggy Ashcroft, a daethant yn ffrindiau mawr.

Roedd Stella Pettiward wedi symud at y teulu ers dyddiau Tŷ Trafalgar a byddai’n gofalu am y plant tra byddai Ruth yn gweithio. Yn y cartref hefyd roedd Meg Shuttleworth, merch i ffrind i Ruth a oedd yn awdur ar themâu hudol.  Cymerodd Meg enw Ruth a hi yw’r actores Meg Wynn-Owen.  

Yn y cyfnod roedd Ruth yn rhannu ei hamser rhwng fflat yn Ealing a’r cartref yn Swydd Efrog.  

Adnabyddid Ruth hefyd fel mam Y Plant Bran, traddodiad gwrachaidd, hudol, hynafol oedd â phwyslais ar y tymhorau. Fe’i hadnabyddwyd fel Gwenfran. Roedd yn amlwg yn ffigwr dylanwadol o fewn y traddodiad.  

Ar ddiwedd y 1960au dechreuodd ddioddef o lwnc tost.  Ym 1972 cafodd driniaeth ar ei llwnc.  

Pan ymddeolodd Ian yn 1974, symudodd y teulu i Corner Cottage, The Buttlands, Wells next the Sea yn Norfolk. Ddwy flynedd wedyn bu farw Stella. 

Bu farw Ian ym mis Rhagfyr 1990 a bu farw Ruth ar 6ed Mai 1992 yn Ysbyty y Royal Marsden, Llundain.  

Ychydig ddyddiau cyn iddi farw daeth un o’i chyn-ddisgyblion, Brian Blessed i’w gweld a rhoi carreg o Fynydd Everest a sgarff a oedd wedi ei bendithio gan y Dalai Lama iddi.  Siaradodd Patrick Stewart yn ei hangladd ar ôl hedfan yno o Los Angeles.  Angladd Crynwyr a gafodd a darllenodd Stewart “Fear no more the heat o’ the sun” o Cymbeline. 

Darllen pellach:

www.Owen.cholerton.org

www.independent.ie

Dylan Thomas gan Paul Ferris

www.imdb.com

The Love Letters of Dylan Thomas gan Dylan Thomas