Ruth Mynachlog – E. Cadifor

Ruth Mynachlog oedd fy hen fam-gu.  Yn 1939, a hithau’n 83 mlwydd oed, cyhoeddodd ei hatgofion sy’n drysor teuluol ond sydd hefyd yn gofnod pwysig o fywyd yn Ne Ceredigion yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Union 80 mlynedd yn ddiweddarach mae “Atgofion Ruth Mynachlog” wedi’u hargraffu eto. Wrth iddynt gael eu gwerthfawrogi o’r newydd mae’r wraig o Dalgarreg bellach wedi’i disgrifio fel eicon benywaidd y dylai pawb yng Nghymru wybod amdani.

Ganed Ruth Jones mewn bwthyn o’r enw Mynachlog ym 1856. Yn wyth a hanner oed gorfu iddi adael y nyth a mynd i weithio ar aelwyd ddieithr: 

“Y gwaith cyntaf a gefais oedd gwau hosan. Ar ôl cinio mi ges fynd i figila’r gwartheg.”  

A dyna ddechrau cyfres o ddisgrifiadau o arferion gwaith merched a menywod cefn gwlad y cyfnod. Yn ferch fach, tynnu brwyn ar gyfer gwneud coleri i anifeiliaid, torri ysgall a defnyddio ysgubell rug i “gwympo’r” gwlith o’r meillion rhag i’r gwartheg gael y blôt ar ôl pori.

Yn fenyw ifanc, adeg cneifio, teithiodd dros nos  i’r mynyddoedd uwchlaw Tregaron, a hithau’n wan ei hiechyd, i gasglu gwlân oddi ar yr eithin:

“Amser hyfryd ydoedd… a chofio’r iechyd a enillais a’r gwlân a gesglais fe ddeuthum adre’n gyfoethog.”

A phan ddaeth hi’n amser y cynhaeaf medi, teithiodd dros nos unwaith eto i farchnad Aberystwyth yn y gobaith o gael ei chyflogi:

“Safasom yno, gyda’n crymanau o dan ein ceseiliau fel adferteisment..” 

Â’r dyletswyddau amaethyddol yn brinnach dros y gaeaf, roedd cyfle gwerthfawr o dro i dro i gael addysg. Dyma’r cyfnod cyn addysg orfodol, ac eithriad oedd ysgol mewn rhai ardaloedd. Ond arfer rhai dysgedig oedd rhentu bwthyn neu dai mas a chynnal ysgol i fechgyn a merched dros y gaeaf. 

“Yr oedd manteision addysg mor brin… nes bod ein hedmygedd o’r sawl allai gyfrannu addysg yn ymylu ar addoliad ohono.”

Ac mae un achlysur yn awgrymu natur benderfynol y Ruth ifanc.  Â chyfeilles yn gwmni mae’n mynd at athro ar ei ginio i ofyn iddo’u dysgu i ysgrifennu:

“Yr oeddem braidd yn ofnus wrth ofyn ond cofiaf am byth am y croeso gwresog gawsom ganddo…”

Yr un natur benderfynol â’i harweiniodd hi a’i chefnder Siencyn Rhydyrwyn i gerdded dair gwaith i bentref cyfagos “pan oeddem yn ein gofid am na ddeallem Sol-ffa”.  A’r ddau wrth eu bodd yn canu eu gobaith oedd perswadio gŵr oedd yno nid yn unig i’w dysgu nhw ond i ddod i’w capel, Pisgah, i ddysgu gweddill yr aelodau. Er bod Siencyn dair blynedd yn hŷn na hi, Ruth oedd yn “torri’r garw” bob tro.  Hi oedd yn gofyn, nid yn unig drosti’i hun ond ar ran ei phobl. Does dim dwywaith y byddai Ruth wedi bod yn arweinydd cymdeithas mewn oes arall. 

Gwaith, addysg, y capel a chanu cysegredig yw’r themâu yn ei bywyd. Mae un diwrnod yn ficrocosm o’r bywyd hwnnw:  yn bedair ar ddeg oed, codi am bedwar a gyrru defaid, yng nghwmni Siencyn unwaith eto, o Dalgarreg i Bencader – pellter o ddeg milltir a hanner – a threulio dwy awr mewn siop yn dysgu Sol-ffa a phrynu anthemau. Eu hastudio ar y ffordd adref a chyrraedd ’nôl mewn pryd ar gyfer yr Ysgol Gân.

Ond yn gefndir i’w hatgofion hefyd mae digwyddiadau’r cyfnod. Cawn hanes pobl yn ymfudo i’r Amerig – rhai yn ddiniwed yn credu y byddent yn cael gwell iechyd yn ogystal â golud, dim ond i ddychwelyd a marw’n ifanc. Clefydau fel y frech goch a theiffoid. Hanes etholiad 1868 pan gafodd rhai dynion y bleidlais ond eu ‘troi mas’ pe meiddient bleidleisio i rywrai heblaw’r tirfeddianwyr. 

Ond a ydi cofnodi ei hatgofion ar ddiwedd oes yn golygu bod Ruth yn haeddu ei lle ymhlith menywod anghofiedig hanes Cymru? Ydi yn sicr yn ôl y ddwy fu’n golygu argraffiad newydd o’r gyfrol yn 2019.

Meddai un ohonynt, Eiris Llywelyn:  

“Nid hanes un fenyw sydd yma ond hanes bywyd gwerin bobl a fynnodd frwydro mor galed i addysgu a diwyllio eu hunain er gwaethaf tlodi a chaledi. Mae Ruth yn symbol o arwriaeth y werin honno ac o ddewrder mamau a gwragedd cyffredin Cymru dros y canrifoedd; y menywod hynny nad oes sôn amdanynt yn y llyfrau hanes. Yn sicr mae Ruth yn un o’n heiconau benywaidd.”

Ac yn ôl ei chyd-olygydd, Llinos Iorwerth Dafis, yn ei rhagair i’r gyfrol:

“Mae yma… yn bennaf oll, ymdrech ddi-baid ar ran unigolion i wella’u hamgylchiadau. Nid ymdrech uchelgeisiol bersonol mohoni ond ymdrech er gwasanaeth, boed hynny i alluogi grŵp o fechgyn ifainc tlawd i gael gafael ar lyfrau arwyddocaol y cyfnod neu i alluogi aelodau Capel Pisgah i ddysgu darllen cerddoriaeth.”

Awdur sgript y cyflwyniad i lansio’r llyfr ar ei newydd wedd oedd Emyr Llywelyn:

“Roedd hi’n symbol … o werin y cyfnod yn codi eu hunain allan o’u tlodi drwy eu hymdrechion eu hunain.. Fe ddylai pawb yng Ngheredigion ac yng Nghymru wybod am Ruth Mynachlog ac am ei dewrder. Roedd hi’n berson arbennig iawn.”

Nai Ruth Jones, John Jones a’i hysgogodd i gofnodi’i hatgofion. Pan aeth hi’n rhy wan i’w hysgrifennu, cawsant eu trawsgrifio ac ymhlith y rhai a wnaeth hynny roedd ei hŵyr, y storïwr â’r ddawn dweud, Eirwyn Pontsian. Fe dystiodd ef i ddylanwad ei fam-gu, a oedd wedi byw ar ei aelwyd. Gydag ef yn trawsgrifio roedd ei gefnder, fy ewythr Merfyl Jones a aeth ymlaen i gofnodi hanes Ysgol Capel Cynon a’r ardal yn Lle Tardd y Cerdin. Roedd  pwysigrwydd diogelu ar gof a chadw hanes ei gymuned yn amlwg wedi dylanwadu arno yntau hefyd.

Mae’n siŵr y byddai Ruth yn falch o wybod bod merched y teulu ymhob cenhedlaeth ers hynny wedi dwyn ei henw, hyd at or-or-or-wyres iddi heddiw.  Ac ymhlith ei gor-wyresau mae rhai sy’n organyddion capel ac yn gyfeilyddion corau, a rhai sydd wedi hyfforddi plant i safon genedlaethol.  A phan fyddaf yn canu rhai o fy hoff emynau neu garolau mi fyddaf i’n teimlo cysylltiad dwfn â hi.

Ac mae hynny’n brofiad newydd yn sgil darllen y llyfr hwn unwaith eto. Drwy ymdrechion y golygyddion ac aelodau Cymdeithas Hanes Maes a Môr Ffostrasol cafodd fy llygaid eu hagor o’r newydd i bwysigrwydd Ruth Mynachlog fel cofiannydd pwysig ei hoes. 

Darllen Pellach:

Atgofion Ruth Mynachlog (Cyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Maes a Môr Ffostrasol 2019)

(Copïau drwy e-bostio atgofionruthmynachlog@gmail.com)     

“Ailgyhoeddi cyfrol yr ‘eicon’ Ruth Mynachlog” – BBC Cymru Fyw

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50287654

Erthygl ar ‘Atgofion Ruth Mynachlog’ gan Emyr Llywelyn yn Y Faner Newydd, Rhif 25, 2003

Mae Elin Cadifor yn gyn-newyddiadurwraig ac yn gyfieithydd yng Nghaerdydd