Joan Roger – E. Lois

JOAN ROGER

Yn 1654, cyhuddwyd mam a mab o blwyf Penbre yng Nghwrt y Sesiwn Fawr o fod yn wrachod.  Roedd Joan Roger yn wraig weddw oedd yn byw gyda’i mab di-briod, David John. 


Yn mis Ionawr y flwyddyn honno, roedd David John yn dychwelyd adre o ymweld â rhai o’i ffrindiau gyda’i berthynas John Thomas. Gan ei fod hi’n hwyr, arhosodd John Thomas yn nhŷ Joan a David. Ychydig cyn iddyn nhw gyrraedd y tŷ, credodd John Thomas iddo weld ffurf dyn ar gefn ceffyl yn sefyll o’i flaen. Gwadodd David John fod unrhyw beth yna, gan ddweud wrth John Thomas i weddïo ar Dduw, gan na allai unrhyw beth ei niweidio wedyn.

Wedi iddynt gyrraedd y bwthyn, daeth hi’n amlwg fod John Thomas wedi yfed tipyn. Dechreuodd adrodd yr hanes wrth Joan Roger, a smygu pibell. Ymhen hir aeth i’r gwely, ac aeth Joan Roger â bwyd iddo. Yfodd ef y cawl, ond gwrthododd fwyta’r cig. Yn ystod y nos, dechreuodd John Thomas weiddi a throsi cymaint yn ei gwsg, bu’n rhaid i Joan Roger redeg i nôl Dafydd ap Dafydd, cymydog iddynt, er mwyn ceisio helpu John Thomas i dawelu.

Pan aeth Dafydd ap Dafydd i’w lofft, a gofyn beth oedd yn ei boeni, dywedodd John Thomas iddo am y ffurf yr oedd yn credu ei fod wedi ei gweld ar y ffordd. Dywedodd Dafydd iddo weddïo, a pheidio â phoeni. Wedi hyn, cysgodd tan y bore, ac aeth ymaith, gan ffarwelio â Joan Roger a David John cyn dychwelyd adre.

Cymerwyd ef yn sâl yn fuan wedi hyn, a chyhuddodd Joan Roger a David John o achosi ei afiechyd drwy reibio.

Cafwyd Joan Roger a David John yn ddieuog.


Darllen Pellach:

Gwrachod Cymru – Eirlys Gruffydd




E. Lois yw arlunydd Prosiect Drudwen, Rhithganfyddiad a phrosiect #GwrachodCymru, ymhlith pethau eraill. Mae hi ar Instagram fel @efalois a Twitter fel @efalois

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *