Roedd Helen Wyn Thomas yn ymgyrchydd heddwch o Gastell Newydd Emlyn.
Ganwyd Helen Wyn Thomas ar y 16eg o Awst 1966. Aeth hi i Brifysgol Cymru, Llanbed, a graddiodd mewn hanes. Wedi iddi raddio, symudodd i Gaerdydd, a chychwynnodd weithio i Women’s Aid yno, cyn ymddiddori yng Nghwersyll Heddwch Greenham Common.
Bu farw ddau fis wedi iddi symud i’r gwersyll heddwch o anafiadau i’w phen wedi iddi gael ei tharo gan gar heddlu wrth aros i groesi’r ffordd fer y Gât Felen yn y gwersyll. Roedd hi’n 22 mlwydd oed.
Yn 2010, cynhaliwyd gwasanaeth i’w chofáu yn Greenham Common. Yn 2011, gosodwyd mainc yng Nghastell Newydd Emlyn i’w chofáu. Ysgrifennodd Dafydd Iwan ei gân, ‘Can i Helen’ amdani.
DARLLEN PELLACH:
Erthyglau:
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/woman-who-paid-ultimate-price-1808843
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-west-wales-15598177
…
E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois