Ena Radway

Ganwyd Ena yn St Elizabeth, Jamaica, yn 1936. Tyfodd Ena i fyny yn ardal Thornton. Roedd ei thad yn gweithio ar blanhigfa, ac fe fyddai’r plant yn helpu pan oedd hi’n gynhaeaf. Yn yr ysgol, dysgodd Ena am hanes Prydain, a’r Brenin George VI. Cofiai ddysgu hwiangerddi Prydeinig hefyd. Saesneg oedd ei hoff bwnc yn yr ysgol uwchradd. Pan oedd Ena’n 18, priododd â dyn ifanc lleol o’r enw...

Iris Cave

Ganwyd Iris Cave yn Grenada yn 1923.  Roedd hi’n unig blentyn, ac roedd ei mam yn gweithio fel cogydd yn Trinidad, felly treuliodd Iris lawer o’i phlentyndod yng nghwmni ei Mamgu, ‘Mother Jule’, oedd yn fydwraig yn y pentref. Gadawodd Iris yr ysgol pan oedd hi’n 16 oed, a threuliodd rai blynyddoedd yn dysgu gwnïo â dwy o’r gwniadwragedd lleol.  Yn 1944, gadawodd Iris...

Pauline Pingue

Ganwyd Pauline Eureka Pingue yn Christ Church, Barbados, yn 1935. Roedd hi’n hoff o arddio yn ystod ei phlentyndod - byddai hi’n tyfu llysiau a rhosynnau. Collodd ei theulu dir pan adeiladwyd ‘Highway 7’.  Roedd Pauline wedi gadael ei chartref, ac yn byw yn Sea View gyda Eunice, ei merch ifanc, pan aeth ei thad yn sâl. Bwriad ei thad oedd anfon Pauline i America, ond doedd hi ddim...