Thereza Dillwyn Llewelyn – E. Lois

Ganwyd Thereza Dillwyn Llewelyn yn 1834 ym Mhenllergaer yn Abertawe. Roedd ei thad, John Dillwyn Llywelyn, yn ffotograffydd ac yn fotanegydd. Roedd ei theulu’n ymwneud llawer â maes ffotograffiaeth wyddonol. Roedd ei modryb, Mary Dillwyn, yn un o’r ffotograffwyr benywaidd cyntaf yng Nghymru.


Roedd hi’n gyfnither i Amy Dillwyn.


Datblygodd Thereza ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a seryddiaeth, er bod y ddau beth yn bethau anghyffredin iawn i fenywod ymddiddori ynddynt yn ystod y cyfnod Fictorianaidd.


Yn 1858, priododd Thereza â Nevil Story-Maskelyne, a thrwyddo ef y daeth Thereza i gysylltiad â Charles Darwin. Ganwyd dwy ferch i Thereza a’i gŵr – Thereza, a briododd Arthur William Rucker, a Mary, a briododd H. O. Arnold-Foster.


Gan fod gan Thereza ddiddordeb mawr mewn seryddiaeth, adeiladodd ei thad arsyllfa gyhydeddol iddi yng nghoedwig Penllergaer ar ei phen-blwydd yn 16. Cydweithiodd â’i thad ar sawl arbrawf seryddol, gan gynnwys tynnu rhai o’r lluniau cyntaf o’r lleuad yng nghanol yr 1850-au. 


Bu farw yn mis Chwefror 1926.



Darllen Pellach:

Photography: A Cultural History – Mary Warner Marien (2006)

Engreiffiau o’i lluniau: https://monovisions.com/thereza-dillwyn-llewelyn-biography-19th-century-photographer/






E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, Crysau T Golau Arall, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.