Actores y Llwyfan a’r Sgrin ac Ysbrydoliaeth Bette Davies
Ganwyd Millicent Lilian “Peg” Entwistle ym Mhort Talbot ar y 5ed o Chwefror 1908. Roedd ei rhieni o Loegr, a threuliodd ei bywyd cynnar yn byw yng ngorllewin Kensington, yn Llundain.
Wedi marwolaeth ei mam, symudodd Peg gyda’i thad i America, a oedd yn actor mewn sioeau yn Cincinnati, Ohio, ac Efrog Newydd. Yn mis Rhagfyr 1922, bu farw ei thad mewn damwain car yn Efrog Newydd, a symudodd Peg a’i hanner brodyr iau i fyw gyda’i hewythr, oedd wedi symud gyda nhw i Efrog Newydd.
Erbyn 1925, roedd Peg yn byw yn Boston, ac yn fyfyrwaig yn y Henry Jewett Repertory. Dechreuodd actio rolau bychain, ac yn 1925, pan oedd hi’n 17, perfformiodd rôl ‘Hedvig’ yn sioe Hendik Ibsen, ‘Yr Hwyaden Wyllt’.
Wedi iddi weld y sioe, dywedodd yr actores fyd-enwog Bette Davies wrth ei mam ei bod am fod yn union fel Peg Entwistle. Trwy gydol ei bywyd, dywedodd Bette Davies mai Peg Entwistle oedd ei hysbrydoliaeth i ddechrau actio.
Wedi ei pherfformiad yn ‘Yr Hwyaden Wyllt’, perfformiodd ei rôl gyntaf ar Broadway, fel “Martha” yn ‘The Man from Toronto’. Perfformiodd mewn deg sioe Broadway wedi hyn, gydag actorion megis George M. Cohan, Henry Travers a Laurette Taylor. Perfformiodd yn y sioe ‘Tommy’ gyda Sidney Toler, a redodd am 232 berfformiad.
Ym mis Ebrill 1927, priododd Entwistle yr actor Robert Keith yn Efrog Newydd. Ysgarodd y cwpl yn mis Mai 1929. Ymysg cyhuddiadau o greulondeb, hawliodd Enwistle nad oedd ei gŵr wedi dweud wrthi ei fod wedi bod yn briod o’r blaen, a bod ganddo fab chwe mlwydd oed.
Perfformiodd yn Broadway tan 1932 yn sioe J. M. Barrie, ‘Alice Sit-by-the-Fire’, gyda Laurette Taylor. Gohiriwyd y sioe, gan fod Taylor wedi colli dau berfformiad oherwydd ei halcoliaeth, a bu’n rhaid i’r cwmni theatr ad-dalu’r gynulleidfa am eu tocynnau.
Yn mis Mai 1932, roedd Entwistle yn Los Angeles, yn perfformio yn sioe Romney Brent, ‘The Mad Hopes’. Wedi i’r sioe ddod i ben, cafodd Entwistle ei hunig rôl gydnabyddedig mewn ffilm ar gyfer Radio Pictures.
Roedd cast y ffilm, Thirteen Women, yn cynnwys Myrna Loy ac Irene Dunne. Rôl Peg Entwistle oedd Hazel Cousins. Yn y ffilm, roedd agrwymiadau fod cymeriad Hazel mewn perthynas â menyw arall, ac o’r herwydd cafodd rôl Entwistle yn y ffilm derfynol ei thorri i funudau’n unig.
Darganfuwyd corff Peg Entwistle ar y 18fed o Fedi 1932, o dan yr arwydd ‘Hollywoodland’ (sydd nawr yn dweud ‘Hollywood’) yn Nghaliffornia. Mae’n debyg ei bod wedi dringo i ben y lythyren H ar yr arwydd, a neidio. Gadawodd nodyn hunanladdiad yn ei phwrs.
Yn 2014, coffawyd Entwistle mewn cyfarfod mewn maes parcio yn Hollywood, lle darlledwyd ‘Thirteen Women’ ar sgrîn fawr. Rhoddwyd yr arian a godwyd o raffl a gwerthu bwyd a diod i’r ‘American Foundation for Suicide Prevention’ yn enw Entwistle.
Darllen Pellach:
Peg Entwistle and the Hollywood Sign Suicide: A Biography – James Zekur Jr
Podlediad amdani : https://www.youmustrememberthispodcast.com/episodes/2017/1/26/peg-entwistle-dead-blondes-episode-1?rq=peg
Erthygl Wicipedia amdani: https://cy.wikipedia.org/wiki/Peg_Entwistle
…
E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois