Lulu Griffiths a Margaret Griffiths, Y Fonesig Herkomer – N. M. Thomas

Lulu Griffiths (1849 – 1885) a Margaret Griffiths,  Y Fonesig Herkomer (1857 – 1934)

Yn ardal Bushey yn Hertfordshire roedd yna gartref anhygoel o waith y pensaer o America, Henry Hobson Richardson.  O’r tu allan roedd yn rhyfeddod o ddylwanwadau gothig, Fictorianaidd, Arts and Crafts ac Almeinig, ymhlith eraill.  Adeiladwyd y tŷ ar gyfer yr artist Hubert von Herkomer a dechreuwyd ar y gwaith tua 1886. O fewn y tŷ roedd stiwdio, ysgol gelf, theatr a stiwdio ffilm.  Rhoddodd Herkomer yr enw Lululaund ar y tŷ er cof am ei wraig, Lulu Griffiths.

Roedd Lulu yn ail wraig iddo a bu farw o fewn blwyddyn i’w priodas, yn 1885.

Ganwyd Eliza Louisa Griffiths yn un o ddeuddeg o blant Thomas a Mary Griffiths o Rhuthin.   Mewn erthyglau mewn papurau newydd o’r cyfnod nodir bod Mary Griffiths yn gyfrifol am ddysgu’r Gymraeg i’w mab-yng-nghyfraith, yr artist Hubert von Herkomer.

Hanai Hubert o bentref Waal yn yr Almaen.  Symudodd ei deulu i America cyn symud i Loegr.  Astudiodd gelf gain a sefydlodd ei hun yn un o artistiaid mawr y cyfnod. Yn 1873 daeth ei deulu ato i fyw yn Bushey, ac yn yr un flwyddyn priododd ag Anna Weise o Ferlin.  Ond doedd Anna ddim yn iach ac yn 1874 cyflogwyd morwyn o Ruddlan, Lulu Griffiths, i ofalu amdani. Yng nghyfrifiad 1881 mae Lulu yn 46, Penybryn, Llanllechid yn forwyn i Hubert Herkomer a’i dad ar daith arlunio efallai.

Bu farw Anna yn 1883.  Yn ôl yr hanes roedd Lulu ar y pryd yn Boston yn America gyda Hubert a’i dad, Lorenz.  Roedd gan yr artist gomisiynau yno, gan gynnwys comisiwn gan y pensaer Henry Robson Richardson.  Roedden nhw yn cysylltu yn aml gyda’r teulu ym Mhrydain a dechrau amau nad oedd Anna, gwraig Hubert yn hwylus.  Wedi penderfynu dychwelyd am adre, cyrhaeddon nhw ddiwrnod ar ôl i Anna farw.  Yn y cyfnod pan oedd Lulu yn America, Margaret ei chwaer, oedd yn nyrsio Anna.    Ymddengys fod y ddwy chwaer yn rhan o’r drefn o redeg cartref Hubert von Herkomer.

Blwyddyn yn ddiweddarach mi briododd Hubert gyda Lulu mewn seremoni yn Rhuthin.  Yn ôl Y Weekly Mail 16 Awst 1884 roedd y briodas yn Eglwys Llanrhydd.  Gwisgodd Lulu ffrog sidan a’i morwyn oedd ei chwaer Margaret.  Roedd plant Hubert o’i briodas gyntaf, Siegfried ac Elsa,  hefyd yn y seremoni. 

Llai na blwyddyn wedi’r briodas digwyddodd trasiedi arall ym mywyd Hubert.  Tra’i fod e a Lulu yn Efrog, gwelodd Lulu blentyn yn crwydro tuag at goets â cheffyl.  Rhedodd i achub y plentyn ond bwriodd y goets hithau.  Roedd yn feichiog ar y pryd a chollodd y plentyn.  Gadawodd y teulu am yr Alpau ar gyfer taith arlunio bron yn syth – a dychwelyd i Bushey dri mis wedyn.  Tra bo Hubert i ffwrdd o’r cartref roedd Lulu yn gadael i’w chwaer wybod beth i’w wneud gyda’r plant.  Mae’n debyg iddi gwyno wrth ei chwaer ei bod yn teimlo yn wan, gorwedd nôl a bu farw.  Roedd wedi dioddef trawiad ar y galon.  Mae’n debyg bod y golled yma yn un anferth iddo – ac enwodd Hubert y cartref er cof amdani.  Claddwyd Lulu ym mynwent Eglwys St James yn Bushey.

Parhaodd Margaret i redeg y cartref i edrych ar ôl Hubert a’i blant.  Yn fuan ar ôl colli Lulu, gadawodd am ei ail daith i America yng nghwmni ei dad.  Gadawodd ei blant gyda Margaret yng Nghymru.  Sylweddolodd ei fod am briodi Margaret ond doedd dim modd iddyn nhw wneud ym Mhrydain gan fod priodi chwaer y wraig yn ymddangos fel llosgach.

Ym 1888 priododd y ddau mewn seremoni ym Mafaria.  Cafon nhw ddau o blant, Lorenz yn 1889 a Gwenddydd yn 1893.  Roedd Margaret yn gefn mawr i waith ei gŵr.   Roedd ganddo yntai ddiddordeb mawr yn y Gymraeg a’r diwylliant Gymreig.     Ym 1899 yng Nghaerdydd, dyluniodd Hubert Gleddyf Gorsedd y Beirdd.  

Yn 1907 cafodd Hubert ei urddo’n farchog gan y Frenhines Fictoria.  Bu farw Hubert ychydig cyn dechrau’r Rhyfel Mawr ym 1914.

Wedi marwolaeth ei gŵr, symudod Margaret allan o Lululaund i gartref arall gerllaw, gan barhau i ymweld â’r Almaen yn aml.   Yn y  Goleuad ym mis Ebrill 1917 nodir ei bod hi a’i merch Gwendydd wedi eu harestio yn yr Almaen am fod yn gyfeillgar gyda charcharor rhyfel Ffrengig.  Cafodd Margaret ddirwy o 20c a Gwendydd ddirwy o 75c.  

Bu farw Gwenddydd yn yr Almaen yn 1927.  Bu farw Margaret yn Bushey yn 1934 a’i chladdu yn yr un fynwent â’i chwaer a’i gŵr.  

Darllen Pellach:

Noble Endeavours gan Miranda Seymour

Busheymuseum.org

Artuk.org

Weekly Mail 16 Awst 1884


Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.