Yn ei lyfr “Education and Female Emancipation in Wales”, disgrifiodd Dr Gareth Evans Frances Hoggan fel “… undoubtedly one of the leading feminist pioneers in Wales”. Hi oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gradd mewn meddygaeth yn 1870. Yn 1970 cynhaliwyd oedfa arbennig yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu i goffáu canmlwyddiant hyn.
Ganed Frances Morgan yn High Street, Aberhonddu yn mis Rhagfyr 1843. Roedd ei thad, Richard, yn gurad ym Mhriordy Sant Ioan yn y dref, ac roedd ei mam, Georgina, o bosib yn perthyn i un o deuluoedd hynaf Aberhonddu.
Pan oedd yn deirblwydd oed symudodd y teulu i Forgannwg ac, ar ôl derbyn addysg yn Y Bontfaen ac wedyn yn Windsor, aeth Frances ymlaen i astudio ym Mharis ac yn Dusseldorf. Tra oedd yn ei harddegau, fe roddodd enedigaeth i ferch fach – a fabwysiadwyd gan ei mam ac a chafodd ei hadnabod fel chwaer i Frances.
Penderfynodd Frances ei bod am fod yn feddyg ond yn y cyfnod nid oedd hyn yn bosib gan nad oedd merched yn cael astudio meddygaeth yn y Brifysgol. Ond doedd Frances ddim am adael i hyn ei rhwystro. Gweithiodd gyda thiwtoriaid preifat cyn sefyll arholiad mynediad Prifysgol Zurich – lle enillodd le.
Zurich oedd yr unig Brifysgol a fyddai’n derbyn merched i astudio meddygaeth yn 1867. Gwnaeth Frances enw i’w hun yno hefyd gan gwblhau’r radd chwe mlynedd mewn tair yn unig (a dysgu Sanskrit i’w hunan yn ei hamser sbâr!)
Yn 1870 mi raddiodd mewn meddygaeth – y fenyw gyntaf o Gymru, y gyntaf o Brydain a’r ail o Ewrop i wneud hyn. Roedd hyn yn fwy trawiadol hefyd gan fod ei thraethawd ar dystrophi’r cyhyrau yn herio barn ei hathro.
Ar ôl graddio mi gwblhaodd waith ôl-radd yn Vienna, Prague a Pharis. Priododd George Hoggan yn 1874 ac yna sefydlodd hi a’i gŵr y clinig cyntaf ym Mhrydain i gael ei redeg gan ŵr a gwraig ym Mhrydain. Bu’r ddau hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi pedwar deg dau papur ymchwil meddygol yn Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Daeth Frances yn arbenigydd ar iechyd menywod a phlant.
Roedd Frances yn ymwybodol iawn o’i chefndir Cymreig ac yn y 1880au daeth yn rhan o’r ddadl am addysg canolradd ac addysg uwch yng Nghymru. Yn 1882 cyhoeddodd lyfr dylanwadol, “Education for Girls in Wales” a thrafododd hyn mewn cyfarfodydd yng Nghymru ac yn Llundain.
Daeth hefyd yn rhan o drafodaethau yn India, y Dwyrain Canol, De Affrica a’r U.D.A. Roedd yn siarad er budd hawliau’r bobl Afro-Americanaidd yno.
Bu farw yn 1927 a chafodd ei chladdu yn Woking gyda’i gŵr.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn rhoi y Frances Hoggan Medal i fenywod sydd â chysylltiad â Chymru ym meysydd gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg, technoleg neu fathemateg.
Darllen Pellach:
Education and Female Emancipation in Wales – Dr Gareth Evans (Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
…
Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois