Ganwyd Ena yn St Elizabeth, Jamaica, yn 1936.
Tyfodd Ena i fyny yn ardal Thornton. Roedd ei thad yn gweithio ar blanhigfa, ac fe fyddai’r plant yn helpu pan oedd hi’n gynhaeaf.
Yn yr ysgol, dysgodd Ena am hanes Prydain, a’r Brenin George VI. Cofiai ddysgu hwiangerddi Prydeinig hefyd. Saesneg oedd ei hoff bwnc yn yr ysgol uwchradd.
Pan oedd Ena’n 18, priododd â dyn ifanc lleol o’r enw Gerald, yn Eglwys y Testament Newydd.
Cofiai glywed y Frenhines Elizabeth II yn gwahodd pobl o Jamaica i ddod i Brydain i fyw a gweithio.
Hedfannodd Gerald i Brydain yn 1962, a hedfannodd Ena i Brydain yn mis Mawrth 1963, pan oedd arian iddi deithio. Roedd Ena’n 24 pan hedfannodd hi i Brydain.
Ar ddiwrnod cyntaf Ena ym Mhrydain, fe glywodd fod yr Arlywydd Kennedy wedi ei ladd.
Symudodd Ena a’i gŵr i Gasnewydd. Dechreuodd Gerald weithio yng Ngweithfeydd Dur Llanwern yn rheoli craen.
Dechreuodd Ena weithio mewn ffatri friciau. Yn 1972, dechreuodd weithio yn Ysbyty Frenhinol Gwent yn yr adran famolaeth. Gweithiodd Ena yn Ysbyty Frenhinol Gwent am 22 mlynedd, tan iddi ymddeol.
…
Mae erthygl helaethach am Ena Radway, a cyfweliad â hi, gan y ‘Back-a-Yard Project’, ar gael yma: https://www.casgliadywerin.cymru/story/499421