
Betty Campbell – Ff. Arwel
Ganed Betty Campbell (Johnson gynt) i gartref tlawd yn Nhre-biwt yn 1934. Bryd hynny roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel Bae Teigr (Tiger Bay). Yno, ger dociau Caerdydd, gorweddai calon cymunedau aml-ddiwylliannol cynharaf Cymru – a chartref Betty. Daeth tad Betty, Simon Vickers Johnson, draw i Gymru o Jamaica yn bymtheg oed. Lladdwyd ef yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl...