Amy Dillwyn – Efa Lois

Ganwyd Elizabeth Amy Dillwyn ar yr 16eg o Fai 1845, yn Sgeti, Abertawe. Roedd hi’n ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn a’i wraig Elizabeth.

Roedd ei thad yn wleidydd Rhyddfrydol, ac yn aelod seneddol ar gyfer Abertawe am 37 mlynedd. Roedd yn berchennog ar Weithiau Sinc Dillwyn yn Abertawe. 



Yn 1864, bu farw dyweddi Amy Dillwyn, Llewelyn Thomas o Lwynmadog, yn fuan cyn eu priodas. Mae ymchwilwyr i fywyd Dillwyn wedi nodi ei pherthynas agos ag Olive Talbot, yr aristrocrat Cymreig, trwy eu llythyrau. Roedd Dillwyn yn cyfeirio ati fel ‘wife’ yn ei dyddiaduron.

Wedi marwolaethau ei brawd yn 1890, a’i thad yn 1892, collodd Dillwyn ei chartref, ond achubodd y Gweithiau Sinc. Dechreuodd hi reoli’r Gweithiau Sinc, a thrwy hynny achubodd hi 300 swydd. Roedd hi’n credu’n gryf mewn cyfiawnder cymdeithasol.

Roedd hi’n adnabyddus gan ei fod hi’n ysmygu sigârs ac yn gwisgo’n anghyffredin ar gyfer menyw o’r cyfnod.

Dechreuodd Amy Dillwyn ysgrifennu nofelau yn yr 1870au. Cafodd ei nofel ‘The Rebecca Rioter’ ei gyhoeddi gan Macmillan yn 1880. Ei nofelau eraill oedd ‘Chloe Arguelle’ (1881), ‘A Burglary; or Unconcious Influence’ (1883), ‘Jill’ (1884), ‘Nant Olchfa’, ‘Jill and Jack’ (1887) a ‘Maggie Steele’s Diary’ (1892). Cafodd ‘The Rebecca Rioter’ a ‘Chloe Arguelle’ ei cyfieithu i’r Rwsieg.



Bu farw Amy Dillwyn yn Abertawe ar y 13eg o Ragfyr 1935. Roedd hi’n 90 mlwydd oed. 

Darllen Pellach:

Amy Dillwyn – David Painting (2013) 

Nineteenth Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity – Jane Aaron

LGBT History Month: Amy Dillwyn. Jason Pawlin (2018) : https://companieshouse.blog.gov.uk/2018/02/14/amy-dillwyn-lgbt-history-month/

The Dillwyn Project: http://www.swansea.ac.uk/crew/researchprojects/dillwyn/

Erthygl Wales Online gan Kirsti Bohata: https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/original-thinker-economist-who-liked-12628475



E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, Crysau T Golau Arall, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen. 

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois