Gwen John – E. Lois

Ganwyd Gwen John ar yr 22ain o Fehefin 1876 yn Hwlffordd, Sir Benfro.  Magwyd hi, ei brawd a’i chwiorydd yn Ninbych y Pysgod gan eu tad – a oedd yn gyfreithiwr – a’u modrybod.

Aeth Gwen John, a’i brawd Augustus, i astudio yn Ysgol Gelf Slade yn 1895. Wedi iddi raddio, ymwelodd â Pharis, ac astudiodd o dan oruchwyliaeth yr arlunydd James McNeill Whistler yn ei Acadamie Carmen. Dychwelodd i Lundain yn 1898, er mwyn arddangos ei gwaith yn y New English Art Club.

Yn 1904, wedi cyfnod o deithio de Ffrainc gyda Dorelia McNeil (a fyddai’n dod yn ail-wraig i’w brawd Augustus) yn cysgu mewn caeau ac ennill arian teithio drwy arlunio portreadau o bobl ar y ffordd,  symudodd Gwen John i Baris eto, er mwyn gweithio fel model ar gyfer artistiaid. Y flwyddyn honno cyfarfu hi â Auguste Rodin, a daeth hi yn fodel ac yn gariad iddo.

Roedd Rodin yn artist adnabyddus ac enwog yn y cyfnod hwnnw, a chafodd eu perthynas angerddol effaith fawr ar Gwen John am gyfnod hir. Daeth hi i fod yn ddibynol arno, ond wrth i’w perthynas ddirwyn i ben, darganfu Gwen John gysur mewn Catholigiaeth. Ymunodd â’r Eglwys yn 1913. Ysgrifennodd, yn y cyfnod, ei bod hi am fod yn ‘God’s Little Artist’.

Yn ôl placiau sy’n cael eu harddangos gyda’i gwaith yn yr Amgueddfa Genedlaethol, aeth ati i ddatblygu perthynas gyda lleianod yng Nghlwysty Meudon, Urdd Chwiorydd Elusen y Forwyn Fendigaid o Tours. Ym 1913, cafodd ei chomisiynu i beintio portread o’i sylfaenydd, Mère Poussepin (1653 – 1744). Seiliwyd y llun ar gerdyn gweddi a argraffwyd ar gyfer y lleiandy. Mae llawer o ddarluniau John o’r cyfnod hwn yn rhai arluniodd hi wrth eistedd yng nghefn yr eglwys lle addolai. Datblygodd Gwen John gyfeillgarwch â Véra Oumançoff, un o’i chyd-blwyfion, yn ystod y cyfnod hwn, a dechreuodd ymweld â hi, ac anfon llythyrau iddi.

Yn 1910, daeth Americanwr o’r enw John Quinn yn noddwr i Gwen John, a olygai nad oedd yn rhaid iddi fod yn fodel ar gyfer artistiaid bellach; a rhoddodd hyn gyfle iddi ganolbwyntio ar ei gwaith.

Portreadau o fenywod mewn ystafelloedd plaen yw’r rhan fwyaf o baentiadau olew Gwen John, ond mae ei brasluniau yn dangos ei diddordebau ehangach, gan gynnwys ei chathod. Roedd gan Gwen John lawer o gathod, a disgrifiodd hi nhw unwaith fel bod ‘y pethau pwysicaf yn ei bywyd’.

Bu farw Gwen John yn Dieppe yng Ngogledd Ffrainc yn 1939, wedi cyfnod o salwch. Dywedir ei bod hi wedi teithio i Dieppe, gan ei fod yn ei hatgoffa o arfodir garw ei gwreiddiau yn Sir Benfro.


Llyfryddiaeth / Darllen Pellach
Gwen John – Detholiad : Bethany McIntyre (Llyfrau Amgueddfa Cymru, 2011)
Gwen John : An Interior Life : Cecily Langdale (Phaidon Press Ltd, 1985)
Gwen John : Alicia Foster (Tate Publishing, 1999)
Nomadic Narratives, Visual Forces: Gwen John’s Letters and Paintings : 
Maria Tamboukou (Peter Lang Publishing Inc, 2010)
Swing Out, Sister : Laura Cummings (https://www.theguardian.com/artanddesign/2004/oct/03/art.tatebritain)
To be a Pilgrim : Sanford Schwartz (http://www.nybooks.com/articles/2001/11/29/to-be-a-pilgrim/
Gwen John: A Painter’s Life : Sue Roe (Farrar, Straus and Giroux, 2001)

E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois