Ganwyd Amy Roberts Ruck yn Rawalpindi yn y Punjab yn India ar yr 2il o Awst 1878. Hi oedd yr hynaf o wyth o blant Arthur Ashley Ruck, a oedd yn sywddog yn y fyddin. Roedd ei mam, Elizabeth Elaeanor D‘Arcy hefyd yn hanu o deulu milwrol.
Pan oedd yn ddwy flwydd oed, ac yn rhugl yn Hindwstani a Saesneg, anfonwyd Berta yn ôl i Gymru at ei mam gu, Mary Ann Ruck, a oedd yn Gymraes. Roedd Mary Ann wedi etifeddu stadau Pantlludw ac Esgair yn ardal Bro Dyfi ac roedd cartref ganddi hefyd yn Aberdyfi. Roedd Mary Ann yn gyffyrddus ym Meirionydd ond hefyd yn treulio amser ac yn cymysgu mewn cylchoedd cymdeithasol yn Llundain. Yng Nghyfrifiaid 1861 mae hi gyda’r teulu yn Elgin Crescent yn Kensington. Mae’n debyg bod mam Mary Ann yn medru olrhain ei hachau i Dafydd Llwyd o Fathafarn yn y bymthegfed ganrif.
Dychwelodd rhieni Berta i Gymru ac yn 1881 roedd y teulu yn byw yn Llwyn y Brain, Llanrug a’i thad, Arthur Ashley, yn Brif Gwnstabl yr Heddlu. Ar y pryd mae’r teulu yn cyflogi athrawes a thri aelod o staff. Addysgwyd Berta adre am gyfnod ac yna aeth i ysgol breswyl yn yr Almaen am dymor cyn dychwelyd i Ysgol St Winifred ym Mangor.
Treuliodd gyfnod byr fel au pair yn yr Almaen ond erbyn 1901 ceir hyd iddi yn byw gyda chwaer ei mam yn Nelson Square, Southwark lle nodir ei bod hi’n “art student”. Dyma, mae’n debyg, yr oedd ganddi ei bryd arni a mynychodd ysgol gelf yn Lambeth cyn ennill ysgoloriaeth i’r Slade. Symudodd wedyn i’r Colarossi ym Mharis yn 1904. Roedd wedi cyfrannu lluniau at gylchgronnau megis The Idler ond hefyd yn y cyfnod bu’n cyfieithu rhwng yr Almaeneg a Saesneg. Darganfyddodd wedyn ei bod yn hoff o ysgrifennu ffuglen; dechreuodd ei storïau ymddangos yn 1905 mewn cylchgronnau megis Home Chat.
Cyfarfu â’r nofelydd George Oliver Onions yn Llundain yn 1902 ac yn 1909 priododd y ddau yn Eglwys Chrustchurch yn Hampstead. Ganwyd mab iddynt, Arthur, yn 1911, a William yn 1913. Yn 1918 mae’n debyg i George newid ei gyfenw i Oliver er mwyn achub eu meibion rhag eu gwawdio oherwydd eu cyfenw
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf daeth gwaith Berta fel nofelydd rhamantus yn boblogaidd tu hwnt. Ei chyflog hi fyddai’n cynnal y teulu. Cyhoeddodd dros naw deg o nofelau yn ogystal â straeon byrion a chyfresi mewn cylchgronnau. Cyhoeddodd o dan yr enw Mrs Oliver Onions tan 1916 pan ddechreuodd ddefnyddio’r enw Berta Ruck. Roedd hi hefyd yn darlunio – weithiau darnau o gelf o fewn y nofel neu ar y cloriau. Yn aml byddai yna gymeriad o Gymru yn ei gwaith – neu byddai elfen o’r stori wedi’I lleoli yng Nghymru.
Ysgrifennodd lyfr am achau ei mam, a hefyd fywgraffiadau yn olrhain ei hanes hithau.
Aeth meibion Berta i ysgolion preswyl a rhoddodd hyn y rhyddid iddi deithio ac i dreulio amser oddi cartref. Bu’r teithio yn bwydo ei gwaith fel nofelydd ond hefyd daeth ar draws materion oedd yn bwysig iddi. Byddai’n nofio tu allan bob dydd ac roedd yn poeni am iechyd a rhyddid merched. Cefnogodd Marie Stopes yn ei hymgyrchoedd am addysg ryw ac atal cenhedlu. Cefnogodd hefyd ei ffrindiau fel Rebecca West a Gwen Ffrancon-Davies yn eu bywydau personol. Mwynhaodd gyfeillgarwch dynion a merched ond roedd ei ffrindau benywaidd yn hynod bwysig iddi, gan gynnwys yr awduron Muriel Menie Dowie a Vicki Baum ac Alice Williams (Alys Meirion).
Roedd Berta yn falch iawn o’i hachau Cymreig. Doedd hi ddim mor rhugl yn y Gymraeg ag oedd hi yn Ffrangeg ac Almaeneg ond deallai yn iawn a gallai gynnal sgwrs syml. Yn 1937 pan aeth achos Tân yn Llŷn Saunders Lewis, Lewis Valentine a D.J Williams i’r Old Bailey, aeth hithau i’r llys bob dydd a gwneud nodiadau a lluniau o’r tri ac adrodd hyn yn ôl i’w thad.
Yng Nghofrestr 1939 ceir hyd i Berta yn aros yn Nhywyn gyda Barbara Field a ddisgifir fel “Private Secretary to Novelist”. Y flwyddyn honno symudodd gyda’i gŵr i Aberdyfi – i dŷ o’r enw Pomona.
Yn ystod y rhyfel bu’n weithgar wrth wirfoddoli a siarad yn gyhoeddus, a gweithio yn achlysurol ar gyfer y BBC.
Yn 1961 bu farw ei gŵr, ond roedd Berta yn parhau i fod yn brysur iawn – gan nofio tu allan bob dydd hyd yn oed pan oedd yn ei hwythdegau. Cyhoeddwyd ei nofel ddiwethaf pan oedd bron â bod yn 90 oed. Bu farw yn Bryntegwel, Aberdyfi ar y 11 Awst 1978 – naw diwrnod ar ôl ei phenblwydd yn gant oed.
Mae llawer o’i hysgrifau a llythyron ar gadw yn y Llyfrgell Genedaethol.
Darllen pellach:
https://biography.wales/article/s10-RUCK-ROB-1878
https://openlibrary.org/authors/OL1947916A/Berta_Ruck
https://en.wikipedia.org/wiki/Berta_Ruck
Bloom, Clive (2008). Bestsellers: Popular Fiction Since 1900
https://cy.wikipedia.org/wiki/Berta_Ruck
…
Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.