Darlun gan | Illustration by: Efa Lois

Gwenllian Morgan – N. M. Thomas

Ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif nid oedd gan fenywod hawl i bleidleisio.  Ond cyn y newid byd hwn roedd yna un wraig yn torri cwys hynod bwysig mewn gwleidyddiaeth leol – a Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan oedd honno.

Bu’n blaenllaw iawn ym myd gwleidyddiaeth ac addysg y fro. Bu ar gorff llywodraethol yr ysgol ganolradd yn y dref. Am flynyddoedd bu’n weithgar iawn yng Nghymdeithas Dirwest yr Eglwys yn yr ardal   Gwenllian oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu ar y cyngor yn 1907 a hi oedd y wraig gyntaf i ddod yn faer ym 1910.

Gwasanaethodd fel maer rhwng 1910 a 1911.  Ym 1912 codwyd swm sylweddol o arian gan dros 900 o fenywod er mwyn i’r arlunydd Isaac Cooke o Lerpwl dynnu llun ohoni.  Roedd teitl y llun yn nodi mai hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu fel maer – ac yn ei henwi yn Faer y Coroni  “Coronation Mayor”  (gan ei bod yn faer adeg coroni’r Brenin Sior V yn Llundain).  

Ganwyd Gwenllian yn Nefynnog ar y 9fed o Ebrill 1852.  Merch ydoedd i Phillip Morgan a oedd yn gurad ym Mhenbont, Battle ac wedyn yn Llanhamlach. Fel “Miss Philip Morgan” y cafodd ei hadnabod drwy gydol ei dyddiau cynnar – yn ferch i’w thad.

Ar ôl ei farwolaeth yn 1868 symudodd hi, ei mam, Margaret a’i chwaer, Ellen,  i’r dref a byw am flynyddoedd yn 2 Buckingham Place.  Yng Nghyfrifiad 1901 a 1911 mae Gwenllian ac Ellen yn byw yno gydag un forwyn.  Nodir ar waelod Cyfrifiad 1911, yn ei llawysgrifen ei hun, “Gwenllian E F Morgan. Mayor of Brecon”.

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd ym mhapur y “Cambrian” ar 11eg Tachwedd 1910 gallai hawlio ei bod yn ddisgynydd i’r hen Dywysogion:  “Lady Mayor for Brecon – descendant of the Welsh Princes”.

Yn un erthygl nodir ei bod yn fenyw alluog,  “Miss Morgan is a lady of superior literary ability”.    Roedd Gwenllian wrth ei bodd yn ymchwlio i hanes yr ardal a chyfrannodd yn helaeth i gylchgronnau’r cyfnod.  Un o’i phrif ddiddordebau, mae’n debyg, oedd y bardd Henry Vaughan.  Gweithiodd gyda’r Americanes Louise Imogen Guiney, arbenigydd arall ar y bardd a chytunwyd i gyhoeddi llyfr o’i waith a nodiadau bywgraffiadol.  Serch hynny bu farw’r ddwy heb wireddu’r freuddwyd.  Aeth casgliad y ddwy ffrind i law Dr E F Hutchinson a’i defnyddiodd ar gyfer ei waith Henry Vaughan (1947).

Ym 1925 cafodd Gwenllian radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.  

Bu farw ar y 7fed o Dachwedd 1939 a’i chladdu yn Aberhonddu.  Mae ei henw bellach ar aneddau yn y dref oedd mor bwysig iddi – y Gwenllian Morgan Court, ac mae ei llun yn siambr Cyngor y Dref.


Darllen Pellach:

http://yba.llgc.org.uk/en/s-MORG-FAN-1852.html



Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.

Darlun gan | Illustration by: Efa Lois