Ganwyd Margaret yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1888. Roedd ei thad yn ddyn busnes ym myd y llongau a bu’n byw am gyfnod yn Windor Road yn y Barri. Cafodd ei haddysgu adref cyn iddi fynd i Goleg Technegol Caerdydd/ Ysgol Gelf Caerdydd lle enillodd Fedal Aur am ei Chelf yn 1904.
Aeth wedyn i’r Pelham School of Art yn Kensington am flwyddyn cyn ymuno â’r Academi Brenhinol ym 1906. Yn y fan honno enillodd 4 Medal Arian, Gwobr Tirlun ac ym 1911 Medal Aur am ei gwaith “The City of Refuge”. Ar y pryd hi oedd yr ieuengaf i ennill y Fedal – a hefyd y person cyntaf o Gymru i wneud hyn. Enillodd hefyd Ysgoloriaeth i deithio ac ar gyngor John Singer Sargent mi dreuliodd deunaw mis yn Yr Eidal a’r Iseldiroedd. Ym mis Mawrth 1914 cynhaliodd ei harddangosfa cyntaf o wiath yng Nghaerdydd.
Cyn iddi droi yn 30 oed roedd wedi derbyn sawl comisiwn bwysig gan gynnwys darlun o’r Prif Weinidog, Lloyd George yn dadorchuddio cerfluniau hanesyddol yng Nghaerdydd yn 1918. Me’r arn yma yn cynnwys 114 portread unigol a golygai sawl taith i Lundain i dynnu lluniau aelodau’r cabinet. Daeth y comisiwn yma o ganlyniad I’r gwaith wnaeth Margaret i godi arian tuag at Ysbyty Filwrol Netley trwy gynnal arddangosfa yng Ngaherdydd.
Ar ddechrau’r Rhyfel Mawr roedd Margaret wedi cysylltu gyda Lloyd George a holi iddo am gael mynd fel arlunydd swyddogol gyda’r Welsh Divisionyn Ffrainc. Mae’n debyg iddo ystyried bod angen arlunydd yn y fan honno – ond doedd e ddim yn barod i anfon menyw at y gwaith oedd mor beryglus. Ymgeisiodd hefyd i weithio i’r Adran Ddiwydiant – ac eto bu’n aflwyddiannus. Aeth ati wedyn i godi arian at y rhai hynny oedd yn dioddef achos y Rhyfel.
Cynyrchodd ddarluniau ar gyfer gwaith a drefnwyd gan Megan Lloyd George ym 1915 i gefnogi’r Gronfa Cenedlaethol ar gyfer Milwyr Cymreig. Roedd y darluniau o chwedloniaeth Gymraeg. Mi baentiodd lun o Ysbyty Caerdydd yn 1916. Ei darlun mwyaf oedd un o’r Gwasanaeth Cenedlaethol Cymreig yn Abaty Westminster ym Mehefin 1918 i godi arian at Garcharorion Rhyfel o GYmru.. Treuliodd Margaret ddwy flynedd yn gweithio ar gynfas 20 x 16 troedfedd yn yr Abaty cyn dod o hyd i Stiwdio digon mawr i ddal y gwaith.
Treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd yn gweithio o Lundain ond roedd Cymru a chelf Cymreig yn bwysig iawn iddi. Reodd yn aelod o Orsedd y Beird a Chymdeithas y Cymrodorion. Ei phortead o O.M Edwards ydy’r un mwyaf adnabyddus ohono a darluniwyd ganddi dros chwarter canrif ar ol iddo farw.
Bu farw Margaret Lindsay Williams yn Llundain ar y 4ydd o Fehefin 1960.
Darllen Pellach:
Angela Gaffney (1999). Wedded to her Art, Margaret Lindsay Williams. University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies
https://artuk.org/discover/artworks/search/actor:williams-margaret-lindsay-18881960/page/2
https://en.wikipedia.org/wiki/Margaret_Lindsay_Williams
https://www.iwm.org.uk/collections/item/object/1050000396
http://prideinbarry.co.uk/Blueplaque.htm
Peter Lord(2006). The Tradition A New History of Welsh Art 1400-1990.
Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.