Ganwyd Edna May Squires ar y 25ain o Fawrth 1915, mewn carafán garnifal ym Mhontyberem.
Dechreuodd ganu’n broffesiynol pan oedd yn 16, a gweithio mewn ffatri tun. Symudodd i Lundain i weithio fel nyrs pan oedd yn 18, ac yn ystod y cyfnod hwnnw dechreuodd hi weithio yn y Burlington Club. Yn ystod ei chyfnod o weithio yno, cyfarfu â Charles Kunz, y pianydd Americanaidd, ac chychwynodd ganu â’i fand. Yn 1938, ymunodd â Billy Reid a’i Gerddorfa, a chanodd gyda nhw tan 1951, pan ddechreuodd ganu ar ei phen ei hun.
Yn ystod y 1940au, ymunodd â Reid i ffurfio ‘act ddwbl’ oedd yn perfformio tipyn yn y Deyrnas Unedig, a bydden nhw’n ymddangos yn aml ar raglenni radio’r BBC, gan gynnwys Melody Lane, Band Parade, Variety Fanfare a Henry Hall’s Guest Night.
Yn 1953, aeth un o ganeuon Dorothy i’r siartiau cerddorol, ‘I’m Walking Behind You’, a’r flwyddyn honno, priododd Dorothy actor ifanc Seisnig o’r enw Roger Moore.
Roedd Dorothy a’i gŵr yn byw yng Nghaliffornia am y rhan fwyaf o’r 50au, a weithiau byddai’r ddau nhw’n perfformio cabaret.
Wedi i’r berthynas chwalu’n chwerw yn 1961, aeth cân Dorothy ‘Say it with Flowers i’r ‘Top 30’ yn y Deyrnas Unedig. Hi oedd yr artist Brydeinig gyntaf i chwarae ar ‘Talk of the Town’ yn Llundain.
Yn 1968, talodd Dorothy i ryddhau albwm ‘Say it with Flowers’. Dilynwyd hyn gan fersiwn o ‘For Once in my Life’ gan Stevie Wonder, a ‘My Way’ gan Paul Anka (perfformiwyd y gan hefyd gan Frank Sinatra).
Yn 1970, treuliodd ei fersiwn hi o ‘My Way’ bron i 6 mis ar siartiau cerddorol y Deyrnas Unedig, ac ysbrydolwyd hi i logi’r Palladium yn Llundain ar gyfer cyngerdd ‘comeback’ ‘sell-out’. Aeth y cyngerdd yn wych, a rhyddhaodd albwm dwbl ar Recordiau Decca.
Yn yr 1970au, roedd Squires ar daith perfformio trwy’r Deyrnas Unedig, a dychwelodd i’r Unol Dalaethau i berfformio yn y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Yn 1974, perfformiodd yn y Palladium eto, mewn cyngerdd i goffhau Billy Reid, ac yn 1979, rhyddhaodd albwm dwbl arall ‘With All my Heart’. Yn ystod yr 1980au, ymddeolodd yn rhannol, gan berfformio llai a rhyddhau llai o ganeuon.
Daeth ei gyrfa i ben mewn modd dadleuol gyda’i hamryw gyhuddiadau o enllib. Yn y 1982, cafodd ei hatal rhag mynd i’r Uchaf Lys, a gwariodd y rhan fwyaf o’i harian ar ffioedd cyfreithiol.
Roedd ei pherfformiad olaf yn Theatr Dome Brighton yn 1990. Treuliodd fisoedd olaf ei bywyd yng Nghwm Rhondda, mewn cartref a ddarparwyd iddi gan un o’i hedmygwyr.
Bu farw ar y 14eg o Ebrill 1998 o gancr yr ysgyfaint, yn Llwynpia.
Yn 2013, gosodwyd plac glas i’w chofio ar Aston House, New Road, Llanelli, lle y buodd yn byw yn ystod ei phlentyndod. Talodd Roger Moore am y plac.
Darllen Pellach:
Tudalen BBC amdani: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-43747113
Tudalen BBC amdani: http://www.bbc.co.uk/wales/music/sites/dorothy-squires/
Encyclopedia of Popular Music (4th Ed) – Colin Larkin (2009)
Perfformiad y Sherman Amdani: https://www.shermantheatre.co.uk/performance/theatre/say-it-with-flowers/
Marwgoffa: http://news.bbc.co.uk/1/hi/obituaries/78140.stm
My Heart is Bleeding: The Life of Dorothy Squires – Johnny Tudor.
Engreifftiau o’i pherfformiadau:
Dorothy Squires & Russ Conway– Say it With Flowers: https://www.youtube.com/watch?v=R-hW_d74T40
Dorothy Squires – My Way: https://www.youtube.com/watch?v=gJkzhzhAWr0
…
E. Lois yw arlunydd Rhithganfyddiad, ac arlunydd a churadur Prosiect Drudwen.
Darlun gan | Illustration by: Efa Lois