Menywod Llanerchaeron – N. M. Thomas

Menywod Llanerchaeron

Elizabeth Lewis,  Corbetta Powell,  Mary Ashby Mettam, Annie Ponsonby a Mary Peregrine

Yn 2018 cynhaliwyd arddangosfa yn Llanerchaeron i nodi canrif ers I fenywod gael y bleidlais.  “Pŵer y Bais” oedd enw’r arddangosfa a rannodd hanesion pedair a fu, y neu tro, yn ddylanwadol, yn benderfynol ac yn lleisiau cryf yn hanes yr ystâd.

Adeiladwyd y Llanerchaeron presennol yn 1795 gan John Nash fel enghraifft o fferm ac ystad hunangynhaliol ar ran William Lewis.  Ond roedd yna ffermdy yna ynghynt ac i’r tŷ hwn y symudodd Elizabeth yn 1795 pan briododd John Lewis a oedd yn byw yno gyda’i fam.  Roedd Elizabeth yn ferch i Thomas Johnes o Ddolau Cothi.

Mae nifer o lythyron gan Elizabeth wedi goroesi ac o’u darllen ymddengys ei bod yn wraig ifanc oedd yn fodlon herio disgwyliadau.  Ymhlith y llythyron mae yna un yn cynnig gwin i’w brawd.

Yn ôl yr hanes roedd John Lewis yn Ynad Heddwch yn y fro, ac yn cadw trefn.  Pan hwyliodd llong ar greigiau LLanrhystud roedd yna sôn bod rhai wedi bod yno yn dwyn ac ysbeilio.  Gofynnwyd i John Lewis fynd ati i gael hyd iddynt.  

Heb yn wybod iddo fe, mae’n debyg, roedd peth o’r gwin o’r llong wedi gwneud ei ffordd i seler cartref Llanerchaeron – a dyma roedd Elizabeth yn ei gynnig i’w brawd!

Pan fu farw y disgwyl oedd y byddai John Lewis yn gadael y tŷ i’w fab hynaf, ond yn wahanol i’r arfer, i’r ail fab, William, y gadawodd Llanerchaeron.   Roedd William yn aelod o haen uchaf y gymdeithas, ond roedd e am briodi rhywun o haen uwch.  

Roedd Corbetta Williama Powell (1757 – 1831) yn dod o deulu aristocrataidd Powelliaid Nanteos, ger Aberystwyth. Merch ydoedd i’r Parchedig William Powell.  Daeth i gysylltiad â William am y tro cynta yn ferch pedair ar ddeg oed pan aeth i aros yn Llanerchaeron.  Mae haneswyr wedi cael hyd i nofel oedd yn eiddo iddi.  Ar un dudalen mae’n arwyddo llythrennau ei henw cyn-briodasol ond ar dudalen arall mae llythrennau ei henw priod.  Yn ddiddorol ymddengys ei bod wedi arwyddo’r ail set o lythrennau yn 1771 – ni phriododd y ddau tan 1786.  

Gan bod ei thad wedi marw, ei brawd a roddodd ei gwaddol o £5000.  

Er bod yna forgais yn ei le, dyma’r arian a dalodd i John Nash adeiladu’r tŷ sy’n sefyll heddiw.  Wedi dod o Blas Nanteos , mae’n bosib nad oedd tŷ gwreiddiol yn ddigon o sioe.  Yr awgrym efallai oedd bod hon yn briodas gymdeithasol – ond mae llyfrau cownt William yn dangos bod yna anrhegion a theithiau iddo fe a Corbetta sy’n dangos gymaint oedd e’n ei feddwl ohoni.  

Pan fu farw William eu mab John etifeddodd y tŷ.  Yn wahanol i’r arfer arhosodd Corbetta yn y tŷ – ac nid i fwthyn ar yr ystad.   Pan fu farw John yn 1828, cafodd ei wraig yntau aros ar yr ystâd.  

Priododd John Lewis gyda Mary Ashby Mettam yn 1841.  Merch oedd Mary i’r Parchedig George Mettam o Barwell yn  Swydd Gaerlŷr.  Ganed hi at 17 Mehefin 1813.   Bu farw John yn 1855 gan adael Mary yn Llanerchaeron, heb blant.  Roedd yna etifeddion eraill i’r ystâd, ond roedd caniatâd i Mary fyw yno ar yr amod nad oedd yn ail-briodi.  Doedd dim cantiatâd ganddi serch hynny i wneud unrhyw newidiadau i’r ystâd, felly gofalodd amdano fel yr oedd am y 64 mlynedd nesaf,  hyd nes iddi farw yn 104 oed.  Enillodd enw iddi ei hun fel cyflogwr caredig a ofalai am ei staff.  Pan oedd yn adeg etholiad gwnaeth yn siŵr bod y dynion yn cael hanner diwrnod i bleidleisio, er, fel menyw, doedd ganddi ddim hawl i bleidleisio ei hunan.  Bu farw flwyddyn cyn i fenywod gael yr hawl i bleidleisio.  

Roedd ganddi gydwybod gymdeithasol a rhoddodd hefyd lyfrau a thir i’r ysgol leol.  Ymddengys bod ei thenantiaid yn hoff ohoni.  Yn yr Aberystwith Observer yn 1883 mae yna hanes y tenantiaid yn rhoi rhodd iddi ar achlysur ei phenblwydd yn 70 oed.

Bu farw Mary yn 1918 ac yna aeth yr ystâd i’r Cadben Thomas Powell Lewes o Fanoreifed.

Doedd dim caniatâd gan Mary i wneud unrhyw newidiadau i’r adeilad, ond roedd pethau yn wahanol o dan Thomas Lewes.  Penderfynodd roi clychau ar gyfer y gweision a thrydan i’r adeilad. Defnyddiodd olwyn ddŵr ar yr ystâd i roi pŵer i’r tŷ.    Dyma pryd daeth yr ystafell ymolchi gyntaf hefyd.  Ond roedd y newidiadu yma yn ddrud, ac mae’n debyg bod cyfraniad ariannol ei wraig yn help mawr iddo wneud y gwaith.

Yn 1893 priododd gydag Elizabeth Annie Ponsonby, a oedd yn ferch gyfoethog o Oldham.   Cyfreithiwr oedd ei thad.  Ym 1901 roedd y teulu yn byw Ffosrhydgaled, ger Aberystwyth, adeilad sydd bellach yn westy y Conrah.   Yn 1911 roedd y teulu wedi symud ac roeddent bellach ym mhlas Abermad, Llanilar.  Yn ôl cofnodion mae’n amlwg for Annie yn mwynhau cerddoriaeth, chwaraeon a gwaith elusennol.  Roedd yn allweddol wrth sefydlu a chadeirio Cymdeithas Nyrsio Aberaeron.

Bu farw Annie ym mis Rhagfyr 1932  a’i gŵr yn Ionawr 1940. Eu mab, John Powell Ponsonby Lewes adawodd Llanerchaeron i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan fu farw yn 1989.

Roedd yr arddangosfa hefyd yn olrhain hanes rhai o’r merched oedd yn gweithio yn y plas yn y 1900au cynnar.  Un o’r rhain oedd Mary Peregrine a oedd yn gweithio ar y tir.  Er ei bod yn gwneud gwaith tebyg i’r dynion, byddai’n ennill tua hanner eu cyflog.  Y cyfiawnhad ar yr adeg oedd bod y dynion yn cynnal teulu, ond roedd Mary yn fam sengl ac yn magu ei merch ar hanner cyflog y dynion.  Mae’r cofnodion yn dangos ei bod hi’n aml yn gweithio 13 diwrnod ar y tro, yn cael un diwrnod o hoe a wedyn yn gweithio 13 diwrnod eto.  

Roedd Mary yn siarad Cymraeg ac yn byw yn agos i’r plas.  Bu farw yn 1921. 

Darllen Pellach:

https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/story-mansion-usually-told-through-14610241

https://www.nationaltrust.org.uk/llanerchaeron/features/ladies-of-llanerchaeron

https://www.nationaltrust.org.uk/llanerchaeron/features/a-family-home-for-10-generations

Comfort, Pleasure and Prestige: Country-house Technology in West Wales 1750-1930 gan Alan Wilson

Mae N. M. Thomas yn athrawes o Aberystwyth.