Clare Deniz – N. M. Thomas

Clara Ethel Deniz (1911 – 2002)

Roedd Clara, neu Clare Deniz yn un o’r ychydig gerddorion du o
Gymru oedd ar y sîn yn Llundain yn y tridegau. Pianydd oedd hi a
pherfformiodd gyda rhai o enwau mawr y cyfnod, gan gynnwys Fela
Sawale, Happy Blake a Leslie Hutchinson.

Fe’i ganwyd yn Grangetown, Caerdydd ar y 30 Medi 1911. Morwr o
Barbados oedd ei thad, Frederick Wason, a daeth ei mam, Bessie, o
Wlad yr Haf. Bu farw Frederick yn y Dreadnought Seaman’s Hospital
yn Greenwich o’r ddarfodedigaeth pan oedd Clara ond yn ddeunaw
mis oed. Wedi colli ei thad, aeth Clara a’i mam i aros at Mrs Knight
yn yr un ardal; dynes ddu oedd hi a ddaeth o deulu theatrig ym
Mryste. Magodd Mrs Knight Clara gyda’i nith ei hun ac yn y cartref
yma daeth Clara i fyd cerddorol. Dysgodd yn bedair oed i ganu’r
piano a’r ukulele. Ymddengys fod cerddoriaeth Hawaii yn boblogaidd
ym Mae Caerdydd ar y pryd, gyda llawer yn canu’r gitar ac
offerynnau tebyg. Doedd jazz ddim wedi cyrraedd y ddinas eto;
wrth iddi dyfu byddai Clara yn perfformio mewn dawnsfeydd yn yr
eglwys.


Gadawodd Clara yr ysgol yn un ar bymtheg oed a dechrau perfformio
gyda Waldini – “Mr Music” Caerdydd ar y pryd. Byddai ei fand
“Waldini’s Gypsy Band” yn perfformio ym Marc y Rhath.
Ym 1936 teithiodd i Lundain gyda’i ffrind Don Johnson ac ymunodd
â’r gitarydd Joe Deniz, oedd yn dod o Butetown, Caerdydd, ac esgus
eu bod yn Americanwyr. Sefydlodd fand ei hun – “Clara Wason’s
Hawaiians”. Un o’r aelodau oedd Frank Deniz – brawd Joe. Ac ar
8fed Awst 1936 priododd Clara a Frank yn Eglwys y Forwyn Fair yng
Nghaerdydd. Symudon nhw i Lundain a chael hyd i ystafelloedd yn
Euston, cyn symud i Soho a chymryd unrhyw waith a ddaeth.

Rhoddodd y drymiwr o Florida, Happy Blake, gyfle i Clara berfformio
yn y clwb Rendezvous des Artistes. Yn y cyfnod yma dechreuodd
gael ei nabod fel Clare. Pan adawodd pianydd band Ken “Snake
Hips” Johnson, cafodd Clare y cyfle i berfformio yn yr enwog Florida
Club yn Mayfair. Dyma a wnaeth hyd nes geni eu plentyn cyntaf.
Gwyddai Clara fod y ffaith ei bod yn ddu yn medru gwneud bywyd yn
anodd iddi yn y cylchoedd hyn. Penderfynodd greu delwedd
urddasol iddi hi ei hun, gan wisgo dillad ffasiynol wedi’u teilwra
ynghyd â’r ategolion gorau y medrai eu fforddio.
Yn y cyfnod cyn y rhyfel roedd hyn yn angenrheidiol i berfformwyr
du. Fe’i gwelwyd yn aml fel cynorthwyydd i’w gŵr, ond mewn
gwirionedd byddai hi’n gweithio mwy nag oedd e. Ym 1939 roedd hi
a Frank yn byw yn North View, Tufnell Park a disgrifir y ddau fel
“Dance Band Musician”.


Roedd ei bywyd yn llawn antur. Soniodd unwaith iddi berfformio
mewn clwb yn Kensington a theimlo anadl ar ei gwâr. Trodd ei phen
a chanfod llewpart ar dennyn yn edrych i’w llygaid. Dro arall cafodd
ei hachub pan aeth adeilad ar New Compton Street ar dân. Yr unig
beth y medrai ei gofio oedd ei bod wedi sarnu ei sanau sidan!
Galwyd Frank i weithio ar y môr yn ystod y rhyfel. Yn y cyfnod yma
perfformiodd Clara gyda Johnnie Claes a Leslie Hutchinson. Bu’n
bianydd uchel ei pharch gyda’r West Indian Swing Stars a Spirits of
Rhythm.

Ganwyd eu hail ferch yn 1945 ac arafodd ei gyrfa. Ym 1951 dysgodd
ganu steil “be-bop” wrth i fwy o bobl gyrraedd o Jamaica.
Perfformiodd mewn tafarndai a chlybiau yn Llundain a chanodd yng
nghôr Fela Sawande ar gyfer y gyfres deledu Club Ebony.

Parhaodd i weithio tan yr ‘80au cyn symud i Malaga, lle byddai hi a
Frank yn perfformio weithiau mewn bariau. Dychwelon nhw i
Brydain pan oedd iechyd Clara yn gwanhau ar ddechrau’r ‘90au.

Dioddefodd o glefyd Parkinsons a bu farw ar 7fed Rhagfyr 2002 yn
Whitford, Hertfordshire. Mae ei merch, Clare Deniz, yn enwog am
ganu’r cello.

Darllen pellach:
Oxford Dictionary of National Biography 2005-2008
edited by Lawrence Goldman
The Guardian 3 Ionawr 2003
Black British Jazz – Routes, Ownership and Performance gan Jason
Toynbee a Catherine Tackley.