Ellen Edwards – E. Tomos

Ellen Edwards (neé Francis)

‘Athrawes y Morwyr’

(1810-1889)

‘Dystaw weryd, Mrs. Edwards dirion,
A gywir gerir;–  gwraig o ragorion;– 
Athrawes oedd i luoedd o lewion,
Y rhai uwch heli wnant eu gor’chwylion,
Urddas gaed drwy addysg hon – ni phaid llu
Mor ei mawrygu, tra murmur eigion.

(Yr Herald Cymraeg, 7 Medi 1909, t. 6.)

Yn ystod ei hoes, llwyddodd Ellen Edwards i hyfforddi dros 1,000 o forwyr yn nhref Caernarfon. 

Fe’i ganed yn Amlwch, Môn ym 1810. Roedd ei thad William Francis yn gapten llong llwyddiannus ond ym 1814 penderfynodd roi’r gorau i fordeithio a sefydlodd ysgol fordwyo yn Amlwch. Yn naturiol, fe ddysgodd Ellen lawer o’i gwybodaeth am fordwyo tra’n nghwmni ei thad, William.

Tua’r flwyddyn 1830 symudodd Ellen i fyw i Gaernarfon, tref gyda phorthladd a oedd yn prysur dyfu. Yn fuan wedi cyrraedd Caernarfon ymunodd Ellen â Chapel Bedyddwyr Caersalem, lle bu’n Anghydffurfiwr rhonc am weddill ei hoes. Ym 1833, priododd Ellen â Chapten Owen Edwards, ganed iddynt ferch o’r enw Ellen Francis Edwards.

Yn nechrau’r 1830au sefydlodd Ellen Ysgol Fordwyo yn 34 Stryd Newydd, Caernarfon. Fe deithiai ei disgyblion o bell ac agos yn unswydd ar gyfer derbyn ei harweiniad a’i dysg gwerthfawr ar nifer o bynciau hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd. Yn nyddiau Ellen roedd cei Caernarfon yn ferw gwyllt o ddiwydiant gydag oddeutu 3,000 o longau yn clirio’r porthladd yn flynyddol. Byddai’r mewnlifiad mewn criwiau hwylio yn achosi i boblogaeth tref Caernarfon i ddyblu i bron 10,000 o bobl o bryd i’w gilydd! Roedd yr amodau byw ar y cyfan yn wael a thafarndai, puteindai, meddwdod, a mân droseddau yn rhemp. 

Yn ystod y trigain mlynedd nesaf hyfforddodd Ellen dros 1,000 o forwyr yn 34 Stryd Newydd. Ar gyfartaledd roedd oddeutu 30 o’i myfyrwyr yn llwyddo mewn arholiadau Byrddau Morwrol Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn flynyddol – nid oedd gan Gymru Fwrdd Arholi, yn Nulyn oedd y ganolfan arholi agosaf o Gaernarfon! Diolch i Ellen Edwards gwyrdrowyd y grefft o fordwyo yng ngogledd Cymru;

Yn 1863, adroddodd un gohebydd o Ddulyn:

‘[That] No less than fifty Welsh mariners have passed their examination as masters and mates in Dublin since the first day of January 1863, and that to the satisfaction of the examiners, who are as competent as any in the United Kingdom. Perhaps sixty years ago, there were not fifty masters in Wales that knew the art of navigation.’

Roedd Capten Thomas Williams, uwcharolygydd morwrol y Black Line a chad-lywydd y llongau Lightening, City of Sydney, City of Melbourne; Capten John Pritchard capten yr agerlong gyntaf y Mauretania, a’r Capten Robert Thomas capten llong Merioneth a fyddai’r torri record byd am y rhediad cyflymaf i San Francisco ac yn ôl yn ystod yr 1880au ymhlith ei disgyblion disgleiriaf.

Bu farw Owen, ei gŵr, ar 22 Ionawr 1860 pan suddodd ei long, St Patrick ger llaw traeth Colwyn. Yn dilyn ei farwolaeth derbyniodd Ellen bensiwn gwerth £6 10s gan goffrau elusennol Cymdeithas y Morwyr llong ddrylliedig. Pan gyrhaeddodd Ellen ei phen-blwydd yn 70 oed, cafwyd ymgyrch gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon yn mynnu y dylai’r Llywodraeth sicrhau pensiwn anrhydeddus ar ei chyfer. Ni chafwyd pensiwn ond fe dderbyniodd rhodd gwerth £75 gan Gronfa Haelioni Brenhinol am ei gwaith gwerthfawr ym maes mordwyo.

Bu farw Ellen yn ei chartref 13 Stryd y Degwm ar 24 Tachwedd 1889 yn 79 mlwydd oed.

Mewn ysgrif coffa disgrifiwyd Ellen fel ‘Athrawes y Morwyr… bu yn un o rhai mwyaf llwyddianus yn y gangen hon o ddysgeidiaeth.’ (Y Genedl Gymreig, 27 Tachwedd 1889, t. 8.)

Mae E. Tomos yn gweithio i Cwmni Da yng Nghaernarfon. Mae hi newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf ar hanes iechyd y bröydd llechi. Gallwch ei archebu yma.