Ruth Wynn Owen – N. M. Thomas

Ruth Wynn Owen 1915 – 1992 Mewn cyfweliad ym mhapur newydd yr Independent yn Iwerddon yn 2017 cyfeiriodd yr actor byd-enwog Patrick Stewart at wersi actio a gafodd fel bachgen ifanc gan actores o’r enw Ruth Wynn Owen.  Nododd hefyd fod yna ddyn ifanc arall yn mynychu’r un gwersi sef yr enwog Brian Blessed. Cyfeirir ati yn aml fel actores Gymreig. Ganwyd Ruth ar 20fed Ionawr  1915...